Yn flodyn cenedlaethol yr Wcráin, mae gan flodau haul arwyddocâd ychwanegol ers dechrau’r gwrthdaro diweddaraf â Rwsia, wrth iddyn nhw ddod yn symbol o obaith ac o gefnogaeth i’r wlad.

Maen nhw wedi’u gweld ar ffrog a gorchudd wyneb Jill Biden, gwraig Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden, ac roedd dynes o’r Wcráin yn annog milwyr i roi hadau yn eu pocedi fel y byddai’r blodau’n tyfu lle bynnag y bydden nhw’n cwympo ar faes y gad.

Mae ymgyrchydd o Abertawe, sy’n cydweithio â mudiad Llais Wcráin Cymru (Voice of Ukraine Wales), bellach yn mynd ati i ddosbarthu hadau mewn ralïau ar draws y de, gan gynnwys y rhai y tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd ac yn y Mwmbwls yn Abertawe.

Yn ogystal â dangos cefnogaeth, mae’r hadau hefyd yn ffordd o sicrhau bod arian yn cael ei anfon o Gymru i’r Wcráin i helpu pobol gyffredin yn y wlad.

“Yn syml iawn, y blodyn haul yw blodyn cenedlaethol yr Wcráin,” meddai Tomos Williams-Mason, un o’r rhai sy’n trefnu’r ymgyrch.

“A hefyd, maen nhw’n flodau eithaf hawdd eu tyfu.

“Fy modryb yw un o drefnwyr Llais Wcráin Cymru, mudiad celfyddydol sydd wedi bod yn mynd ers sbel.

“Roedd hi’n poeni, pan ddechreuodd popeth yr wythnos ddiwethaf, nad oedd hi’n gwybod beth i’w wneud [i helpu Wcreiniaid].

“Roedd hi’n helpu i drefnu’r ralïau, ac roedd hynny’n cyd-daro â fi a Chris [ei bartner] yn deffro un bore, a’r ddau ohonon ni’n frwd iawn am arddio, ac yn meddwl, ‘Gallen ni fod yn gwerthu rhain!’ achos roedden ni’n digwydd bod yn plannu blodau haul ar y pryd.

“Dechreuon ni anfon negeseuon o gwmpas, cysylltu gydag Adam Price ac yn y blaen…”

Cefnogaeth Adam Price

Talodd y penderfyniad i gysylltu ag Adam Price ar ei ganfed ac o fewn dim, fe gafodd e alwad ffôn yn cynnig helpu gyda’r ymgyrch.

“Fe wnes i gysylltu â fe’n gwbl ddall ar Twitter i geisio barn, ac fe wnaeth e ffonio ’nôl yn nes ymlaen yn y dydd, oedd yn anhygoel, ac mae e wedi bod yn helpu o ran pa mor bell allwn ni fynd â hwn yn gorfforol yng Nghymru.

“Ar hyn o bryd, mae e wedi bod yn rhoi gwybod i ni pryd a ble mae’r ralïau i ni gael ymuno.

“Yn y rali yng Nghaerdydd ddydd Llun, roedd e’n sôn [am y blodau haul] yn ei araith ac yn siarad am symbolaeth y blodyn haul, a’r ffordd mae’n cysylltu â chennin pedr a rhannu diwylliannau.”

Blodau poblogaidd

Mae’n dweud bod yr hadau wedi cydio yn nychymyg pobol, a bod yr ymgyrch “wedi mynd braidd yn wyllt”.

“Pan aethon ni i’r ralïau [yn y Mwmbwls a Chaerdydd], roedd pobol yn rhoi papurau £10, £20, £50 achos doedden nhw ddim yn gwybod sut i roi at yr achos ond roedden nhw eisiau gwneud.

“Mae pobol wedi bod yn gofyn am hadau i’r swyddfa neu i’w plant, ac rydyn ni newydd sefydlu ac yn gobeithio’u gwerthu nhw ar dudalen Instagram, a’u postio nhw i bobol sy’n methu dod i’r ralïau.

“Rydyn ni’n gobeithio bod yn y rali ym Mhrifysgol Abertawe [dydd Iau, Mawrth 3] os gallwn ni gael digon o becynnau o hadau blodau haul, ond rydyn ni hefyd yn anfon rhai at fyfyrwyr fel eu bod nhw’n gallu eu dosbarthu nhw eu hunain hefyd.

“Dyna’r cam nesaf wedyn, yn Abertawe a Chaerdydd, a hefyd eu hanfon nhw i gynghorau fel na fydd rhaid i chi ddod yn uniongyrchol aton ni – os yw pobol yn rhoi arian, maen nhw’n gallu cael llwyth o hadau.

“Ry’n ni wedi gwagio pob Wilko’s yn ne Cymru! Ond rydyn ni eisiau gwneud pethau’n fwy proffesiynol ond cadw popeth ar lawr gwlad.

“Mae’n rhaid i ni edrych ar yr holl ganllawiau ar gyfer elusennau oherwydd dydyn ni erioed wedi gwneud hyn o’r blaen, ond yn gobeithio fydd pobol yn gallu defnyddio PayPal neu drosglwyddiad banc cyn bo hir.”

Sut gall pobol helpu fel arall?

Ar wahân i brynu hadau, dywed Tomos Williams-Mason y gall pobol helpu trigolion yr Wcráin mewn sawl ffordd arall hefyd.

“Cafodd y mudiad ei sefydlu er mwyn i’r holl bobol o’r Wcráin yng Nghymru ddod at ei gilydd, ond maen nhw hefyd wedi bod yn casglu arian i’w ddanfon ar gyfer nwyddau meddygol,” meddai.

“Mae llawer o bobol yn rhoi dillad, ond mae hi bron yn amhosib weithiau i gael popeth allan i’r Wcráin oherwydd yr holl reoliadau ar y ffin, felly maen nhw wedi bod yn codi arian yn lle.

“Mae angen dau beth, a’r peth ymarferol cyntaf yw fod angen arian. Mae popeth ar lawr gwlad gymaint â phosib, yn ceisio anfon arian allan i’r Wcráin a thrwy brynu hadau blodau haul, rydyn ni’n gallu anfon yr holl arian.

“Ond hefyd, mae’n golygu fod gan bobol yng Nghymru flodau haul yn eu gerddi am fisoedd i ddod a hyd yn oed os ydyn nhw’n anghofio amdanyn nhw wedyn, byddan nhw’n codi rywbryd yn eu gerddi.

“Mae grŵp mawr o Wcreiniaid yng Nghymru ers amser hir, ac mae hyn yn ffordd o ddangos iddyn nhw eu bod nhw’n rhan o Gymru yn gymaint ag unrhyw un arall.

“Mae’n bwysig rhoi hyder i bobol o’r Wcráin yn hynny o beth.”

Cynnal rali o flaen y Senedd i ddangos undod â’r Wcráin

“Mae [Vladimir Putin] wedi datgan rhyfel nid yn unig ar hawl cenedl Wcreinaidd i fodoli – ond ar ryddid, democratiaeth a hawliau dynol ym mhobman”