Mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o gyflwyno “sancsiynau diddannedd” ar Rwsia.

Mae nifer o fanciau wedi cael eu cosbi, ac fe fydd sancsiynau llym ar gwmnïau Rwsiaidd ar draws sector, tra bod pobol yn y Deyrnas Unedig hefyd wedi’u cynghori rhag teithio i Rwsia.

Ond “mae yna lot o bobl yn pryderu ynglŷn ag ymateb Prydain, mewn sawl ffordd,” meddai Hywel Williams wrth golwg360 wrth ymateb i’r sancsiynau.

“Un o’r pryderon ydi’r sancsiynau diddannedd maen nhw wedi’u cyhoeddi, gyda rhai ohonyn nhw ddim yn mynd i ddod i mewn am 18 mis.

“A hefyd y ffaith ein bod ni’n gwrthod cymryd ffoaduriaid ar yr un telerau â phawb arall yn Ewrop.

“Mae’r Prif Weinidog yn dweud bod gwledydd Ewrop yn gweithredu fel hyn oherwydd eu bod nhw’n rhan o Schengen – hynny yw’r cytundeb o beidio cael ffiniau y tu mewn i Ewrop.

“Ond dydy Iwerddon ddim yn rhan o Schengen ac maen nhw wedi diddymu holl ofynion fisa i bobl o’r Wcráin am dair blynedd.

“Felly mi faswn i yn dweud wrth Boris Johnson, tasa fo ddim ond yn edrych i’r gorllewin am unwaith, mi fasa fo’n gweld bod Iwerddon yn gwneud hyn mewn ffordd hollol ddyngarol a bron heb feddwl am y peth sy’n hollol wahanol i’r ymateb rydan ni wedi ei gael gan Priti Patel [Ysgrifennydd Cartref Prydain].”

Colofn yn achosi stwr

Mae colofn ddiweddaraf Hywel Williams wedi derbyn ymateb cryf gan Andrew RT Davies, wrth i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ei gyhuddo o “danseilio’r hyn mae pobol yr Wcráin yn ei ddioddef”.

 

Fersiwn fer o’i araith mewn rali yng Nghaernarfon dros y penwythnos – lle’r oedd 300 wedi dod i ddangos undod â’r Wcráin – yw’r golofn.

“Diolch am ddod i ddangos eich cefnogaeth a galw am ddiwedd i ryfel ac am heddwch, democratiaeth a rhyddid i bobl Wcráin,” meddai Hywel Williams yn y golofn honno.

“Ac rwy’n cynnig croeso arbennig i bobl o Wcráin sydd wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon ac yng Nghymru ac sydd yma gyda ni heddiw.

“Mae hi wedi bod yn wythnos dywyll i Ewrop a’r byd. Mae Rwsia wedi ymosod ar ei chymydog heb unrhyw esgus, yr ymosodiad mwyaf o’i fath er yr Ail Ryfel Byd.

“Rydym i gyd yn wynebu’r perygl o Ryfel Oer arall.

“Ac i ni yma yng Nghymru mae yna arwyddocâd penodol i’r hyn mae Vladimir Putin yn ei ddweud.

“Mae’n dweud nad yw’r Wcráin yn wlad go iawn, nad oes ganddi’r hawl i fodoli, mae ef draw ym Moscow sydd â’r hawl i Lywodraethu.

“Rydym yn gyfarwydd â’r dadleuon hynny yma yng Nghymru. Ac yma yng Nghaernarfon, wnawn ni byth dderbyn y meddylfryd yna.”

Fodd bynnag, roedd Andrew RT Davies yn anhapus â chymhariaeth Hywel Williams, gan fynnu bod Cymru yn “rhan fodlon a democrataidd o’r Deyrnas Unedig”.

“Dw i ddim eisiau gêm o ping pong

Wrth siarad â golwg360 am ymateb Andrew RT Davies, dywedodd Hywel Williams ei fod “yn gweld ei fod o wedi dyfynnu rhyw ddwy frawddeg allan o gyd-destun”.

“Mi fasa’n rhaid iddo fo ddarllen y golofn i gyd neu glywed yr araith – oherwydd araith oedd hi – i weld mai cefnogi Wcráin oeddwn i, ella y basa fo’n dallt wedyn,” meddai.

“Mewn gwirionedd, mae o’n Brydeiniwr a dw i’n meddwl ei fod o’n cael anhawster deall be’ ydi o i fod yn wlad sydd o dan warchae diwylliannol yn ein termau ni.

“Ond dw i wir ddim eisiau ymateb, dw i ddim eisiau gêm o ping pong.