Mae Plaid Cymru wedi mynegi pryderon sylweddol ynglŷn â’r cytundeb masnach newydd rhwng y Deyrnas Unedig a Seland Newydd.
Does gan ffermwyr Cymru ddim llais nac amddiffyniad yn sgil y cytundeb, meddai Mabon ap Gwynfor, llefarydd amaeth y blaid.
Yn ôl Plaid Cymru, mae’r cytundeb masnach yn agor y drws ar gyfer mewnforio bwyd rhatach o safon is, a gallai daro’r sector amaeth yng Nghymru yn galetach nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig.
Mae’r cytundeb masnach gyda Seland Newydd yn dilyn cytundeb tebyg gydag Awstralia, ac er ei fod yn cynnig manteision i ffermwyr ar ochr arall y byd, gallai greu newidiadau sylweddol i’r farchnad ar gyfer ffermio yng Nghymru, meddai Plaid Cymru.
Daeth cadarnhad fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi llofnodi’r cytundeb gyda Seland Newydd ddydd Llun (Chwefror 28).
‘Tanseilio ffermwyr Cymru’
Fe wnaeth Mabon ap Gwynfor godi’r mater brys gyda Llywodraeth Cymru yn y Senedd ddoe (dydd Mercher, Mawrth 2), gan ddweud bod y fargen yn “achos pryder gwirioneddol i ffermwyr Cymru”.
“Bydd y cytundeb yn darparu cyfnod pontio o 15 mlynedd, ac mae’n dweud na fyddant ond yn gallu ‘defnyddio mynediad newydd i farchnad cig defaid y Deyrnas Unedig hyd nes y byddant wedi llenwi 90% o’u cwota sefydliad masnach y byd (WTO) presennol’,” meddai.
“Fodd bynnag, mae hyn yn gadael ffermwyr Cymru ar fympwy marchnad lle nad oes ganddynt unrhyw reolaeth na mewnbwn.
“Pe bai rhywbeth yn newid yn y farchnad cig defaid yna byddai cig Seland Newydd yn cyrraedd yma neu yn yr Undeb Ewropeaidd yn sydyn iawn, ac yn tanseilio ffermwyr Cymru.
“Drwy fethu â sicrhau bod tariffau ar fewnforion yma mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gadael ffermwyr Cymru yn gwbl agored i fympwy marchnad lle nad oes ganddynt lais nac amddiffyniad.
“Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gynnal asesiad effaith llawn o’r cytundebau masnach hyn ar Ffermwyr Cymru, sy’n llawer mwy agored i niwed gan gytundeb masnach gwael gyda Seland Newydd ac Awstralia na ffermwyr eraill yn y Deyrnas Unedig.”
‘Ddim yn gwrando’
Wrth ymateb i gwestiwn Mabon ap Gwynfor yn y Senedd, dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, ei bod hi’n cytuno bod angen asesiad ar effaith y cytundebau amaeth.
“Nawr bod y fargen wedi’i llofnodi, yn amlwg mae ein swyddogion a finnau angen craffu’r bennod nesaf,” meddai.
“Ond fe wnaethon ni eu rhybuddio nhw; dyma ddywedon ni.
“Rydyn ni’n poeni am safonau llesiant ac iechyd anifeiliaid a’r safonau amgylcheddol. Dw i’n meddwl bod gan Seland Newydd safonau tebyg i ni, os nad uwch, efallai, mewn rhai achosion, ond does gan Awstralia yn bendant ddim.
“Ond yr effaith gyda’i gilydd – beth mae’r cytundeb nesaf am wneud?
“Felly dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n monitro hyn yn ofalus iawn.
“Rydyn ni wedi codi pryderon gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig dro ar ôl tro, ond mae gen i ofn nad ydyn nhw’n gwrando.”
‘Fawr ddim o fudd’
Mae NFU Cymru wedi codi pryderon am y cytundeb, gan ddweud nad oes dim yn y cyhoeddiad diweddaraf gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn “lleddfu’r pryderon” yn ei gylch.
“Dw i’n gweld fawr ddim yn y cytundeb hwn a fydd o fudd i ffermwyr Cymraeg, ac mae yna risgiau sylweddol i’r sectorau llaeth a chig coch, dau beth sy’n nodweddu ffermio teuluol, traddodiadol Cymreig,” meddai Aled Jones, Llywydd NFU Cymru.
“Mae’r cytundebau masnach gyda Seland Newydd ac Awstralia’n golygu newidiadau sylweddol posib i farchnad amaethyddiaeth Cymru,” meddai mewn neges i Lywodraeth Cymru.
“Mae’r cytundebau masnach hyn, ynghyd ag effaith y pandemig, cynnydd mewn costau, ac ansefydlogrwydd geo-wleidyddol, yn golygu bod pethau wedi newid yn sylweddol mewn cyfnod byr o amser.
“Mae’r byd ar ddechrau 2022 yn wahanol iawn i’r un oedden ni’n ei adnabod pan wnaeth Llywodraeth Cymru osod eu cynigion ar gyfer dyfodol polisi ffarmio Cymru.
“Gyda disgwyl i Lywodraeth Cymru fynd â’r Bil Amaeth (Cymru) drwy’r Senedd yn hwyrach eleni, mae angen ailedrych ar frys ar sut gall polisi amaethyddiaeth y dyfodol barhau i gynnal bwyd amgylcheddol gyfeillgar, cynaliadwy o Gymru a chefnogi ein cymunedau gwledig.”