Mae un o wirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi dod o hyd i argraffiad cyntaf prin o glasur George Orwell yn un o’u siopau llyfrau ail law.
Daeth y gwirfoddolwyr o hyd i’r copi o Animal Farm o 1945 yn siop lyfrau ail-law Gerddi Dyffryn ger Caerdydd wrth roi trefn ar lyfrau oedd wedi dod i law ym mis Tachwedd llynedd.
Cafodd y llyfr ei werthu gan gwmni arwerthwyr lleol, Rodger Jones, am £2,800.
Bydd yr arian a gafodd ei godi wrth ei werthu yn aros yng Ngerddi Dyffryn, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn cael ei wario ar ofalu am y gerddi.
Nid dyma’r tro cyntaf i lyfr prin gael ei ddarganfod yn siop lyfrau Gerddi Dyffryn. Yn 2019, daethpwyd o hyd i gopi o The Ascent of Everest gyda saith llofnod gan y dringwyr cyntaf i gyrraedd copa Everest, gan gynnwys Syr Edmund Hillary, yno.
Byddai’r llyfr wedi mynd ar werth am ychydig bunnoedd fel arfer, ond cafodd ei werthu am bron i £500 mewn arwerthiant.
‘Mor gyffrous’
Dywed Lhosa Daly, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, fod eu siopau llyfrau ail law yn “cefnogi gwaith hollbwysig” yn eu cartrefi hanesyddol, gerddi, a safleoedd cefn gwlad ac arfordirol.
“Mae mor gyffrous fod argraffiad cyntaf gan George Orwell wedi cael ei ddarganfod, a bydd yr elw a wnaed o’i werthu yn ein helpu ni i gyflawni cymaint yng Ngerddi Dyffryn,” meddai.
“Ar Ddiwrnod y Llyfr eleni, rydyn ni eisiau dweud diolch yn fawr wrth bawb sy’n cefnogi ein siopau llyfrau ail-law drwy brynu neu gyfrannu llyfrau, ac wrth wirfoddolwyr ardderchog ein siopau llyfrau.”
Ar ben-blwydd Diwrnod y Llyfr yn 25 oed, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn annog pobol i ymweld â siopau ail law yr ymddiriedolaeth yn eu hardal.