Mae un llyfr yn amhosib, ond dyma dri, camau wrth droi cefn ar ddiniweidrwydd:

Luned Bengoch, nofel hanesyddol Elizabeth Watkin Jones a syrthio mewn cariad efo fy arwres ramantus gynta’, efo stori Owain Glyndŵr, efo Nant Gwrtheyrn a’r gair “ysgythrog”.

Dur yn y Nerfau, chwip o stori antur am ddau ffrin dyn troi hen Austin 7 yn gar rasio i oresgyn pob anhawster a thric budr. “Nofel gyffrous fodern” oedd y disgrifiad ohoni pan gafodd ei chyhoeddi gan Gruffudd Roberts yn 1962 ac mae’r ddau gar rasio ar y clawr melyn a choch yn dal i refio yn fy nghof.

Y Mwg Melys, stori am bobol ifanc a thaith (os cofia’ i yn iawn) i Amsterdam. Cip ar gariad pobol ifanc ac un neu ddau beth arall oedd yn awgrymu bod mwy o bethau diddorol o ’mlaen. Welais i ddim copi ohoni hi wedyn na chael anturiaethau cystal.

Wna’ i ddim sôn am lyfrau Saesneg a fy hoffter rhyfedd braidd o nofelau fel St George for England gan G.A. Henty…