Un gerdd, mewn gwirionedd, yw’r rheswm pam mai Noethni gan Steve Eaves yw fy hoff lyfr Cymraeg. Ymysg tudalennau ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth mae yna gerdd o’r enw ‘heno’. Fydda i’n troi at y gerdd pan dw i angen cael fy atgoffa, neu fy mherswadio – mae hi’n anodd penderfynu pa un ar hyn o bryd – bod y byd yn lle da. Mae sŵn geiriau’n rhywbeth sy’n apelio ata i, ac yn rhywbeth mae Steve Eaves yn feistr arno. Mae’r chwarae efo geiriau a’r symlrwydd yn y gerdd ‘y wers’ o’r gyfrol wastad yn codi gwên, hefyd. Fyswn i’n dadlau bod caneuon Steve Eaves yn farddoniaeth, ond mae trio honni mai casgliad o’i ganeuon, Ffoaduriaid, ydy fy hoff lyfr yn plygu’r diffiniad o ‘lyfr’ fymryn gormod beryg…
Yn blentyn, dw i’n cofio gwirioni efo Cyfres y Llewod gan Dafydd Parri, ac mae’n debyg ei bod hi’n un o’r cyfresi y cefais i fwyaf o fwynhad yn ei darllen. Mae gen i gof clir o ddarllen Y Llewod Mewn Syrcas yn yr ysgol gynradd, ac edrych ymlaen at gael troi at antur nesaf y criw ffrindiau.
Ond, o ran fy hoff nofelau, mae Teulu Lòrd Bach gan Geraint Vaughan Jones yn hawlio’i lle tua brig y rhestr. Â dweud y gwir, mae unrhyw nofel sy’n darlunio cymdeithasau chwarelyddol y gogledd tua throad y ganrif ddiwethaf, fel y mae rhan gyntaf y nofel, yn fy nenu. Diddordeb mewn hanes, a gallu Geraint Vaughan Jones i ddisgrifio cymuned a chymdeithas dw i’n gyfarwydd â hi mor gelfydd, sy’n gyfrifol am ei hapêl.