Cyfrol o farddoniaeth yw fy newis i o lyfr dylanwadol i – Cerddi’r Cywilydd gan Gerallt Lloyd Owen.

Dw i ddim yn ddarllenwr mawr o nofelau, ond dw i’n hoff o fflicio mewn ac allan o lyfrau barddoniaeth, achos mae cerddi’n gynt i’w darllen ond yn gwneud i chi feddwl mwy.

Yn un o feirdd mwyaf arwyddocaol Cymru yn yr ugeinfed ganrif, mae Gerallt Lloyd Owen yn sicr wedi gadael ei ôl ar y Cymry niferus sydd wedi darllen ei eiriau a phrofi ei ddawn.

Wedi cyfnod o ansicrwydd mawr yn hanes Cymru drwy gydol y 60au, fe aeth ati i ysgrifennu Cerddi’r Cywilydd mewn ymateb i ddigwyddiadau fel boddi Tryweryn a’r arwisgo yn ddiweddarach.

I ddweud y gwir, dydy’r elfen o anobaith ynglŷn â thranc y Gymraeg a’i chymunedau ddim ar yr olwg gyntaf yn beth hawdd i’w ddarllen, er bod y disgrifiadau mewn cerddi fel ‘Etifeddiaeth’ a’r symbolaeth yn y gerdd ‘Cilmeri’ yn llwyddo i ddeffro rhywun.

Lwcus felly bod cerddi fel ‘Gobaith’ yn llythrennol yn cynnig gobaith ar eu diwedd nhw, a dangos fod y sefyllfa a’r ‘cywilydd’ hwnnw ddim yn fythol os bydd gweithredu’n digwydd i newid hynny.

Yn sicr, mae’r gyfrol wedi dylanwadu ar y ffordd dw i’n edrych ar Gymru a’r Cymry, a’r ffordd dw i’n ystyried gwladgarwch yn ei hanfod.

Dw i’n credu ei bod hi’n arwyddocaol hefyd mai hanner can mlynedd yn ôl i Ddydd Gŵyl Dewi y cafodd y gyfrol ei chyhoeddi.

Does dim dwywaith bod etifeddiaeth Gerallt yn parhau hyd heddiw.