Diolch am Tintin ac Asterix!
Fy hoff lyfrau pan oeddwn yn blentyn ac yn darllen ar fy mhen fy hun oedd llyfrau Tintin yn Gymraeg, y rhai a gafodd eu trosi gan y diweddar annwyl Roger Boore a’r Dref Wen yn y 1970au. Roeddwn hefyd yn dwlu ar y llyfrau graffeg eraill o Ewrop y daeth Roger Boore i’r Gymraeg fel clasuron Tomi Ungerer fel Yr Het, a llyfrau Maurice Sendak, ac Astrid Lingren, awdur Pippi Hosan-Hir. Heb sôn am Asterix a Babar!
Ond dangosodd Tintin i mi’r byd, diolch i’r darluniau lliw, manwl, a bendigedig. Gwelem bazaars ym Morocco (Y Cranc a’r Crafangau Aur), cestyll tywyll Montenegro (Teyrnwialen Ottakar) a chrancod Ceinewydd… ym, de America. Roedd Tintin wastad ar antur, a’i gi bach ffyddlon Smwtyn wrth ei ochr, mewn helynt a thrafferthion di-ben-draw, ond byddai’n drech na’r dihirod bob tro. Roedd dirgelwch yn llechu rhwng dalennau pob llyfr, llawysgrif a map. Roedd yna anturiaethau i fyd môr-ladron (Cyfrinach yr Uncorn), i’r eira yn Nhibet (Tintin a’r Dyn Eira Dychrynllyd) ac i’r lleuad. Y ffefryn efallai oedd Trysor Rackham Goch, y dilyniant i Cyfrinach yr Uncorn! Am eu bod yn gyfuniad o’r cyfan efallai, a Chapten Hadog ar ei orau (a’r hysbyseb orau yn erbyn gor-yfed ar gwch). Er bod agweddau ar y llyfrau o ran daearyddiaeth a gwleidyddiaeth wedi bod yn ddadleuol, does dim dwywaith eu bod yn agor meddyliau plant i’r hwyl o ddarganfod diwylliannau, ieithoedd a phobloedd newydd. Bûm yn ffodus o fyw a gweithio am chwe mis yn nheyrnas Tintin ei hun, ym mhrifddinas Gwlad Belg, Brwsel, ar ôl gadael ysgol – fedrwn i ddim aros am fy antur i.
Mae’n rhoi pleser mawr i mi bellach bod fy merch chwech oed wedi mopio’i phen gyda llyfrau Asterix, sef addasiadau cyfoes Alun Ceri Jones a gwasg Dalen. Mae ef – a fu’n gyfrifol am drosi rhai ohonyn nhw i’r Dref Wen pan oedd yn fachgen ysgol – yn gwneud gwaith aruthrol yn addasu cyhoeddiadau diweddaraf y gyfres, sydd bellach yn cael eu creu gan olynwyr y darlunwyr gwreiddiol René Goscinny ac Albert Uderzo, sef Jean-Yves Ferri a Didier Conrad, a llu o lyfrau graffeg a chomic eraill o Ewrop i’r Gymraeg.
Dyna le mae fy niolch pennaf i ar Ddiwrnod y Llyfr – i’r cyhoeddwyr yma sy’n dod â’r byd mawr i Gymru fach.