Cyfaddefiad bach i chi cyn mynd dim pellach. Prin yw’r cyfrolau ffuglen dwi wedi cyffroi yn eu cylch nhw ar hyd y blynyddoedd (er fy mod i’n aelod brwd o Glwb Sbondonics – pwy, tybed, sy’n cofio’u llyfr jôcs?!).

Un am hunangofiannau a chofiannau chwaraeon oeddwn i’n blentyn ac yn ystod fy arddegau – Beating the Field, hunangofiant y cricedwr Brian Lara gyda Brian Scovell a chofiant Hunter Davies i’r pêl-droediwr Dwight Yorke sy’n sefyll allan. Yn yr un modd â ffuglen, llwyddodd yr awduron hynny i ddod â delweddau criced o’r Caribî yn fyw ar ddu a gwyn. Dychmygwch fy nghyffro, felly, pan gafodd Dyddiadur Troellwr (llai ecsotig!) gan Robert Croft ei gyhoeddi gan Y Lolfa – ynghyd â thudalen i gasglu llofnodion y chwaraewyr!

Yr un flwyddyn, a finnau’n ddeg oed, ges i’r fraint o fynd gydag Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn-y-Môr i adeilad Tŷ Llên yn Abertawe (Canolfan Dylan Thomas erbyn hyn) ar gyfer parti pen-blwydd T. Llew Jones yn 80 oed a chlywed y dyn – nage, y lejend llenyddol – ei hun yn darllen ei waith. Wel, sôn am fwynhad wrth glywed y llais a’r acen hudolus – y tro cynta’ dwi’n cofio clywed acen Ceredigion! A dyna ni wedyn yn cael y cyfle i brynu llyfr ac i gwrdd â T. Llew – a chael ei lofnod!

O fynd yn ôl ati’n ddiweddar, sylweddolais o’r newydd pam mai Corn, Pistol a Chwip wnaeth ddwyn fy sylw o blith yr holl gyfrolau ar y bwrdd y diwrnod hwnnw – ac fe ges i bleser pur o’i darllen eto yn oedolyn. Yn gyfuniad o “hen newyddiaduron ac o lyfrau” a hyd yn oed o faledi o’r ddeunawfed ganrif, maen nhw’n asio i greu darlun o’r heriau mae coets “y Mêl” yn eu hwynebu wrth deithio yr holl ffordd i Gaergybi o Lombard Street yn Llundain. Dafliad carreg o’r fan honno, yn ardal Eglwys Gadeiriol St. Paul, y bu fy nhad-cu’n bostmon cyn symud i Gymru. Er, roedd y coetsys wedi hen fynd erbyn hynny, wrth gwrs!