Pan fydd rhywun yn meddwl am lyfrau eu plentyndod mae’r nostalgia yn llifo ac mae’n anodd iawn dewis un sy’n aros yn cof yn fwy nag eraill.
Mae’n siŵr mai’r llyfrau cyntaf dwi’n cofio darllen ydy cyfres Smot, ac wrth gwrs Sali Mali. Yna erbyn diwedd oedran cynradd roedd gen i obsesiwn â llyfrau Tintin ac Asterix – roedd mynd i lyfrgell fach yr ysgol unwaith yr wythnos i archebu un o’r rhain o lyfrgell fawr Abergele yn achlysur, ac wrth gwrs ei dderbyn yr wythnos ganlynol, yn achlysuron cyffrous!
Ac yna, rhywle yn y canol mae cyfres Rwdlan a Gwlad y Rwla gan Angharad Tomos.
Dyma heb os y dylanwad llenyddol mwyaf arnaf i’n blentyn, a’r hyn wnaeth i mi ddisgyn mewn cariad â darllen yn fwy na dim arall.
Anodd dweud beth sy’n eu gwneud nhw mor arbennig … dyma chi fyd ffantasi gyda llond dwrn o gymeriadau bach rhyfedd. Ond eto, mae rhywbeth cyfarwydd iawn am Wlad y Rwla, a’r cymeriadau’n rai y gallwn ni gyd uniaethu â hwy hefyd.
Mae’r straeon yn ddoniol, ond yn aml ag eiliadau hynod o drist – sut all rhywun beidio colli deigryn dros y Llipryn Llwyd druan wrth iddo geisio dathlu Penbwl Hapus.
Ac wrth gwrs wrth fynd yn hŷn rydan ni’n sylweddoli ar y negeseuon mwy wedi eu plethu yn y cymeriadau a’r straeon yma – gwirioneddau mawr am y byd o’n cwmpas ni.
Yr hyn sy’n arwyddocaol hefyd ydy’r modd mae’r llyfrau yma wedi dal eu tir dros y blynyddoedd, ac fel rhiant dwi wedi bod wrth fy modd yn troi nôl atyn nhw gyda’r plant a’u gweld hwythau’n eu mwynhau cymaint ag y gwnes i.
Ac os oes rhaid i mi ddewis un o’r rhain fel ffefryn… Jam Poeth bob tro.