Dyddiadur Dyn Dwad
Fel Cofi sy’n byw lawr yng Nghaerdydd, mae Dyddiadur Dyn Dwad gan Goronwy Jones yn essential reading. Dyma lyfr llawn hwyl a drygioni, ond sy’n cynnig sylwebaeth ffraeth ar gymdeithas y dosbarth canol parchus Cymreig. A gan mai cwta gant o dudalennau ydi’r llyfr i gyd, mae modd llosgi drwyddo ar brynhawn glawog, neu dros beint neu ddwy yn y ‘New Ely’. Dw i wedi colli cof o sawl gwaith dw i wedi darllen y llyfr, mae o’n un o’r rheiny ti’n mynd yn ôl ato dro ar ôl tro.
Towers of Defiance – The Castles & Fortifications of the Princes of Wales
Ers yr wyf yn hogyn bach, dw i wedi bod wrth fy modd gyda chestyll, maen nhw ynghlwm â hanes Cymru a phwy ydan ni fel pobl. Yn rhy aml, cestyll y Saeson – Caernarfon, Biwmares, Conwy, Harlech ac ati – sy’n meddiannu sylw pobol. Ond roedd y Cymry yn gallu adeiladu cestyll penigamp, oedd wir! Yn y llyfr hwn cewch ddarllen am holl gestyll Tywysogion Cymru, o Wynedd i Bowys i’r Deheubarth, yn ogystal â’r llinachau llai, a hynny yng nghyd-destun y tywysogion, y wlad roeddent yn teyrnasu drosti, y gymdeithas yr oedden nhw’n byw ynddi, a pham bod cymaint o gestyll wedi cael eu codi mewn gwlad gymharol fychan. Mae ynddo hefyd ail-luniadau o rai o’r cestyll amlycaf sydd wir yn dod â geiriau’r awdur – Paul R Davies – yn fyw. Yn wir, byddwn yn argymell y llyfr hwn i unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes Cymru, neu hanes yn gyffredinol!