Mae Emyr Afan, Prif Swyddog Gweithredwr cwmni cynhyrchu teledu Avanti Media, wedi cael ei benodi’n Ddirprwy Gadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC).

Wrth ymateb i’w benodiad, dywedodd Emyr Afan, sydd wedi ennill nifer fawr o wobrau BAFTA, ei fod yn teimlo “ein bod ni’n dod tuag at gyfnod allweddol ym myd y cyfryngau a darlledu”.

Fe wnaeth Emyr Afan gyd-sefydlu Avanti Media yn 1995, a bu’n yn gyfrifol am gynhyrchu Dechrau Canu, Dechrau Canmol am dros ddegawd.

Ers 2017 mae’r cwmni wedi bod yn gyfrifol am gynhyrchu Songs of Praise ar y cyd â Nine Lives Media hefyd.

‘Caffaeliad’

Mae Emyr Afan wedi bod yn aelod o Gyngor TAC wedi blynyddoedd, a dywedodd y mudiad, sy’n cynrychioli sector cynhyrchu annibynnol Cymru, bod ei gyfraniad wedi bod yn “hollbwysig”.

Dywedodd Dyfrig Davies, Cadeirydd TAC: “Rwyf yn hynod o falch bod Emyr wedi cytuno i ymgymryd â’r rôl.

“Bydd ei brofiad helaeth a’i allu naturiol wrth arwain a chyfathrebu yn gaffaeliad i TAC.

“Rydym yn adeiladu ar dîm newydd ar adeg cyffroes a heriol o fewn y sector ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gyd-weithio yn agosach ag ef.

“Mae gan TAC lawer o gynlluniau ar y gweill yn cynnwys adeiladu ar ein rhaglen hyfforddiant, ymateb i strategaeth newydd S4C, gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ar faterion polisi allweddol a chyd-weithio gyda’n darlledwyr.

“Mae’n rhaid sicrhau sector greadigol ffyniannus a llwyddiannus a bydd arbenigedd Emyr yn ein cynorthwyo i wneud hyn wrth symud ymlaen.”

“Cyfnod allweddol”

Wrth ddiolch i Dyfrig Davies am y croeso a’r gefnogaeth, dywedodd Emyr Afan ei fod yn “falch iawn” o gael derbyn y swydd.

“Mae TAC wedi gweithredu ar lwybr cadarn ar hyd y blynyddoedd i fod yn llais cryf,” meddai.

“Rwy’n teimlo yn fy nghalon ein bod yn dod tuag at gyfnod allweddol ym myd y cyfryngau a darlledu, ac rwy’n edrych ymlaen at fod o gymorth ymarferol wrth gefnogi Dyfrig a’r tîm.”