Mae un o feirniaid Cân i Gymru yn disgwyl cystadleuaeth “eithaf agos” heno (4 Mawrth), gan fod y safon yn uchel eleni.
Bydd un o nosweithiau mwyaf y calendr Cymraeg yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth heno yng nghwmni Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris, ac mae Betsan Evans, un o’r beirniaid, yn edrych ymlaen at gael gwrando ar gerddoriaeth byw.
Dafydd Iwan, Lily Beau, ac Elidyr Glyn yw’r arbenigwyr eraill sydd wedi dewis yr wyth cân ar y rhestr fer eleni.
Mae Cân i Gymru yn un o’r ychydig ddigwyddiadau yng nghalendr diwylliannol Cymru sydd heb gael eu hamharu’n ormodol gan y pandemig dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Cafoddy gystadleuaeth ei chynnal yn 2020 ychydig cyn i’r wlad fynd i gyfnod clo, a llynedd cafodd ei chynnal yn fyw gyda chynulleidfa rithiol.
Ond, bydd y gynulleidfa’n dychwelyd eleni, a bydd hi’n sioe “ddiddorol a chyffrous”, meddai Betsan Evans.
“Dw i’n disgwyl ymlaen, fydd e’n neis cael eistedd lawr a gwrando ar gerddoriaeth byw,” meddai Betsan Evans wrth golwg360 ar drothwy’r noson fawr.
“Yn bwrpasol, dw i ddim wedi bod yn gwrando ar y caneuon ar Radio Cymru’r wythnos yma achos dw i wedi bod yn disgwyl ymlaen jyst i weld y perfformiadau byw. Moyn yr ochr ddirgel, a’r syrpreis.
“Fedrith [gwylwyr] ddisgwyl amrywiaeth o genres, mae yna ganeuon gwahanol iawn i’w gilydd yn yr wyth olaf eleni felly dw i’n siŵr y bydd hi’n sioe ddiddorol a chyffrous i’w gwylio.”
Disgwyl cystadleuaeth agos
Mae Betsan Evans yn tybio y bydd hi’n gystadleuaeth agos eleni, gyda’r wyth gân sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn safonol.
“Mae’n anodd dweud, achos mae hi’n dibynnu be mae pobol Cymru’n hoffi ac eisiau eu clywed heno.
“Alla i ddychmygu y bydd hi’n eithaf agos, achos mae’r safon yn eithaf uchel eleni.”
Fe wnaeth Betsan Evans gystadlu yn Cân i Gymru ychydig flynyddoedd yn ôl gyda’r gân Eleri, ac mae hi’n dweud mai cân fuddugol y gystadleuaeth y llynedd ‘Bach o Hwne’ gan Morgan Elwy yw ei hoff enillydd hyd yn hyn.
“Dw i yn joio reggae!”
Yr wyth cân sydd wedi cael eu dewis am siawns i ennill £5,000 a theitl Cân i Gymru 2022 yw:
Rhiannon – Sion Rickard (cyfansoddwr a pherfformiwr)
Paid Newid dy Liw – Mali Hâf (cyfansoddwr a pherfformiwr) a Trystan Hughes (cyfansoddwr),
Pan Ddaw’r Byd i Ben – Steve Williams (cyfansoddwr a pherfformiwr)
Cana dy Gân – Geth Tomos (cyfansoddwr), Geth Robyns (geiriau), a Rhys Owain Edwards (perfformiwr)
Mae yna Le – Rhydian Meilir (cyfansoddwr), a Ryland Teifi (perfformiwr)
Ymhlith y Cewri – Darren Bolger (cyfansoddwr a pherfformiwr)
Diolch am y Tân – Carys Eleri a Branwen Munn (cyfansoddwyr), a FFLOW (perfformwyr)
Rhyfedd o Fyd – Elfed Morris a Carys Owen (cyfansoddwyr), Emlyn Gomer Roberts (geiriau), ac Elain Llwyd (perfformiwr)