Mae’r cyflwynydd Dai Jones, Llanilar wedi marw yn 78 oed.

Roedd yn bennaf adnabyddus am gyflwyno rhaglenni megis Cefn Gwlad, Siôn a Siân, Noson Lawen, ac Y Sioe Fawr ar S4C, ac am fod yn un o ffigurau amlycaf y byd amaethyddol yng Nghymru.

Cafodd Dai Jones ei eni yn Llundain, a’i rieni yn werthwyr llaeth, ond symudodd at berthnasau yn Llangwyryfon, Ceredigion yn blentyn gan nad oedd yn hoff o fywyd y ddinas.

Drwy ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman yn 1970 y camodd Dai Jones i fywyd cyhoeddus Cymru, ac roedd yn denor amlwg.

Dros ei yrfa fe enillodd sawl anrhydedd arall gan gynnwys Gwobr Goffa Syr Bryner Jones am wasanaethu’r Sioe Fawr, MBE, a BAFTA am ei gyfraniad i ddarlledu yng Nghymru.

Roedd yn llais cyfarwydd ar y radio hefyd, gan gyflwyno rhaglen Ar Eich Cais am flynyddoedd ar BBC Radio Cymru.

Bu’n wael ers cryn amser, ac ym mis Rhagfyr 2020 fe benderfynodd ymddeol o’i waith ym myd darlledu yn sgil salwch.

‘Tlotach o lawer hebddo’

Mewn teyrnged iddo, dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Geraint Evans, bod y byd darlledu a chefn gwlad yn “sicr yn dlotach o lawer hebddo”.

“Wrth i ni gydymdeimlo â’i deulu a’i ffrindiau, rydyn ni’n talu teyrnged i un o ddarlledwyr mwyaf talentog teledu Cymru,” meddai Geraint Evans.

“Wedi ei eni yn Llundain ond gyda’i galon yn nwfn yng nghefn gwlad Cymru erioed, roedd Dai yn apelio at bawb o gefndiroedd dinesig a gwledig.

“O’r clos ffarm i lwyfan ’steddfod, ac o’r stiwdio deledu i’r mart, roedd Dai mor gartrefol, a chanddo’r ddawn o wneud pawb arall yn gartrefol yn ei gwmni. Bydd y byd darlledu a chefn gwlad yn sicr yn dlotach o lawer hebddo.”

Dywedodd S4C bod Dai Jones ar “frig” rhestr detholion darlledwyr Cymru.

“Roedd ganddo’r ddawn naturiol honno o gael y gorau mas o bobl, gan ddefnyddio ei ffraethineb, doniolwch a chynhesrwydd naturiol i gyflwyno myrdd o gymeriadau bythgofiadwy cefn gwlad i gynulleidfa deledu chwilfrydig yn y gyfres fytholwyrdd Cefn Gwlad,” meddai’r sianel mewn datganiad.

“Drwy’r gyfres hon, creodd genre unigryw, gan greu portreadau sensitif o’r bobl yr oedd yn eu cyfarfod heb ddefnyddio’r dulliau confensiynol o gyfweld.

“Yn gyflwynydd naturiol ac yn ganwr tenor blaenllaw, gwnaeth ei farc ar gyfresi adloniant teledu fel Noson Lawen ac yn ei flynyddoedd cynnar, y cwis cyplau Siôn a Siân, lle daeth ei ddoniau fel cyflwynydd naturiol gynnes i’r amlwg yn gyntaf.”

‘Colled fawr ar ei ôl’

Mae ITV Cymru wedi rhoi teyrnged iddo hefyd, gan ddweud ei fod yn “bersonoliaeth unigryw gyda’r gallu i roi pawb y cyfarfu â nhw yn ganolog i’w raglenni”.

“Roedd ei angerdd dros Gymru; ei frwdfrydedd dros bobl a’i gynhesrwydd yn disgleirio ym mhopeth a wnâi,” meddai Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni ITV Cymru.

“Mae’n glod i’w rinweddau parhaus fod ei yrfa deledu wedi rhychwantu dros gymaint o ddegawdau ac wedi cyffwrdd â chymaint o fywydau.

“Bydd colled fawr ar ei ôl gan wylwyr ac mae’n meddyliau ni a phawb fu’n gweithio gydag ef gyda’i wraig Olwen a’i deulu ar hyn o bryd.”

Gwobr gan y Gweinidog Materion Gwledig

Yr wythnos ddiwethaf, enillodd Dai Jones wobr Cyflawniad Oes Lantra Cymru 2021, a oedd yn gydnabyddiaeth o’i gyfraniad “eithriadol ac arwyddocaol” i amaethyddiaeth yng Nghymru.

Wrth roi teyrnged arbennig iddo ar y pryd, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig Cymru:

“Mae Dai Jones yn wyneb cyfarwydd i bawb sy’n gweithio ac yn byw yng nghymuned ffermio a chefn gwlad Cymru.

“Fel cyflwynydd teledu ar sianel S4C, mae ei sgyrsiau brwdfrydig a’i lais bariton wedi denu gwylwyr ers blynyddoedd lawer.

“Mae’n fwyaf adnabyddus am gyflwyno’r rhaglen boblogaidd Cefn Gwlad ac am ei ymddangosiadau o Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru.

“Mae Dai yn gyn-Lywydd Cymdeithas y Gwartheg Duon a’r Gymdeithas Cŵn Defaid Ryngwladol ac yn Is-Lywydd CFfI Cymru ac roedd yn hynod o falch o gael ei benodi yn Llywydd Cymdeithas Sioe Frenhinol Cymru yn 2010 pan oedd Ceredigion yn noddi’r sioe.

“Mae Dai wedi bod yn llais ardderchog dros fywyd amaethyddol a gwledig Cymru ac mae’n enillydd teilwng iawn o’r wobr bwysig hon.”

Dai Jones Llanilar yn ymddeol

“Yr ifanc ydi dyfodol Cefn Gwlad” yw neges Dai wrth gyhoeddi ei ymddeoliad o waith teledu