Mae’r Super Furry Animals wedi rhyddhau sengl arbennig iawn i godi arian ar gyfer ymgyrch ‘Save the Severn’.

Y gân – ‘Of No Fixed Identity’ – oedd y gyntaf erioed i’r band ei recordio ym 1993, ac yn canu mae’r actor adnabyddus Rhys Ifans, a oedd yn aelod ar y pryd.

Wedi ei ganfod drwy hap a damwain, fe fydd y sengl brin ar gael ar wefan Bandcamp am gyfnod penodol o amser.

Bydd yr holl arian mae’r band yn ei gasglu yn mynd at ymgyrch ‘Save the Severn’, sy’n ymgyrch yn erbyn claddu mwd sydd wedi ei lygru gan sylwedd niwclear yn afon Hafren.

Mae’r Super Furries wedi defnyddio’u cyfryngau cymdeithasol yn gyson dros yr wythnosau diwethaf er mwyn codi ymwybyddiaeth am yr ymgyrch a’r peryglon sy’n deillio o’r mwd llygredig.

Fel mae’r band yn nodi ar Twitter, pe bai pawb yn rhoi punt i’r apêl, yna byddai’r allweddellwr Cian Ciarán yn gallu defnyddio mwy o’i amser yn creu cerddoriaeth, yn hytrach nag ymgyrchu.

Ac mae e wedi bod yn sôn wrth golwg360 am ei waith gyda’r ymgyrch a’r sengl newydd.

Mwd llygredig

Mae aber yr Afon Hafren yn Ardal Morol Gwarchodedig, sydd â bywyd gwyllt a bywyd morol dirifedi yn byw yn ei chynefinoedd.

Ar ben hynny, mae miloedd o bobol yn byw ar lannau’r afon ac yn defnyddio’r dyfroedd yn eu hamser hamdden.

Yn 2018, mae’n debyg bod 100,000 tunnell o fwd sydd wedi ei lygru gan sylweddau niwclear wedi ei daflu i mewn i’r afon Hafren, ar ôl cael ei gloddio o gwmpas safleoedd cyn-orsafoedd niwclear.

Roedd y mwd yma wedi cael ei lygru gan wastraff o orsafoedd niwclear A a B yn Hinkley Point, sydd wedi eu lleoli yng Ngwlad yr Haf.

Mae gorsaf A wedi cael ei dadgomisiynu ers 2000, a bydd gorsaf B yn dechrau ar y broses o gael ei dadgomisiynu ym mis Gorffennaf eleni, tra bod gorsaf C wrthi’n cael ei ddatblygu gyda’r gobaith o ddechrau gweithredu erbyn 2026.

Er gwaetha’r protestio brwd a’r canfyddiad bod y mwd yn cael ei wthio gan y llanw tuag at leoliadau poblogaidd fel Ynys y Barri, mae’r awdurdodau yn dweud nad yw’r sefyllfa yn un i boeni yn ei chylch.

‘Ffawd’ wedi datgelu’r sengl

Cafodd ‘Of No Fixed Identity’ ei recordio yn stiwdio Gorwel Owen, sydd wedi cydweithio efo’r band droeon ers hynny, ar Ynys Môn yn Haf 1993.

Tua’r un amser, roedd egin eu sengl ddiweddarach, ‘The Man Don’t Give A F*ck’, yn cael ei hysgrifennu a’i recordio.

Mae Cian Ciarán wedi bod yn sôn wrth golwg360 am y sengl newydd sydd wedi gweld golau dydd am y tro cyntaf ers bron i 30 mlynedd.

Yn ystod y 1990au, roedd o’n aelod o grwpiau electroneg WWZZ ac Aros Mae, a ddim yn aelod o’r Furries tan ar ôl i’r gân gyntaf gael ei recordio.

“Dw i’n cofio’r amser, ond doeddwn i ddim efo nhw ar y pryd,” meddai.

“Ffawd, os lici di, ydi bod ni wedi dod ar ei draws o, achos yn amlwg mae o cyn cyfrifiaduron, heb sôn am y rhyngrwyd.

CD gan ffrind o’r enw Dic Ben ydy o, a hwn ydy’r unig gopi sydd gennyn ni.

“Doedden ni methu ffeindio copi ohono yn archif recordiau Sony na Creation achos oedden ni heb seinio i neb ar y pryd.

“Ella wnawn ni drio casglu digon o stwff i wneud compilation ‘wan, ond oedd o’n teimlo’n addas i rannu hwn rŵan gan fod ni angen casglu’r pres.”