‘Mae Yna Le’ gan Rhydian Meilir o Gemaes yw enillydd Cân i Gymru 2022.

Cafodd ei dewis trwy bleidlais gyhoeddus fyw gan wylwyr y rhaglen ar S4C heno (nos Wener, Mawrth 4) o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Mae Rhydian Meilir o Gemaes ger Machynlleth yn wyneb cyfarwydd iawn i Cân i Gymru.

Cyrhaeddodd e’r rhestr fer yn 2012 gyda Cynnal y Fflam, yn 2019 gyda Gewn ni Weld Sut Eith Hi a llwyddodd i gyfansoddi dwy gân ar restr fer 2020, sef Pan Fyddai’n 80 Oed a Tir a’r Môr.

Mae’r gân yn deyrnged i natur a phrydferthwch y byd.

“Mae’n deimlad emosiynol iawn i ennill, doedd genna’i ddim disgwyliadau o gwbl, ond ro’n i awydd un go arall arni,” meddai’r cyfansoddwr buddugol.

“Rydach chi methu cael gwared ohona’i!

“Wnes i fwynhau’r caneuon i gyd – roedd y noson fel cyngerdd. Dwi’n falch iawn o Ryland, ac yn falch ei fod wedi rhoi stamp ei hun ar y gân.”

Yr wyth cân

Dewisodd panel o bedwar beirniad yr wyth cân a gyrhaeddodd rownd derfynol Cân i Gymru 2021.

Eleni, y panel oedd Dafydd Iwan, Betsan Haf Evans, Lily Beau ac Elidyr Glyn.

Ond heno, y cyhoedd gafodd y gair olaf trwy bleidleisio am eu hoff gân yn ystod y rhaglen fyw.

Mae Rhydian Meilir yn ennill tlws Cân i Gymru 2022 a’r wobr o £5,000.

Cana Dy Gân oedd y gân a gipiodd yr ail a gwobr o £2,000 a Rhyfedd o Fyd oedd yn drydydd â gwobr o £1,000.

“Llongyfarchiadau i Rhydian a Ryland ac i bob un o’r perfformwyr a’r cyfansoddwyr sydd wedi cymryd rhan yng Nghân i Gymru eleni – mae wedi bod yn noson anhygoel,” meddai Siôn Llwyd o Avanti Media, sy’n cynhyrchu’r rhaglen ar ran S4C.

“Mae safon yr artistiaid heno yn argoeli’n dda ar gyfer dyfodol Cân i Gymru a dyfodol cerddoriaeth Gymraeg,” meddai Siôn.