Bydd Enid a Robat Gruffudd, sylfaenwyr gwasg Y Lolfa, yn tywys Pared Gŵyl Dewi heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 5).

Maen nhw’n dilyn tywyswyr blaenllaw eraill sy’n cynnwys Meirion Appleton, Dilys Mildon, Ned Thomas, Glan Davies, Mary Lloyd-Jones, Gerald Morgan, Megan a Gwilym Tudur a Dr Meredydd Evans.

Yn dilyn traddodiad sy’n deillio o Wlad y Basg, bydd Robat Gruffudd yn derbyn ffon gerdded wedi’i cherfio ac mae e a Begotxu Olaizola Elordi wedi bod yn siarad â golwg360 – y naill am y Parêd a’r llall am y traddodiad sy’n deillio o Wlad y Basg o roi ffon gerdded i’r Tywysydd.

Anrhydeddu Robat ac Enid Gruffudd

Mae’r pâr priod yn cael eu hanrhydeddu am eu cyfraniad i argraffu a chyhoeddi Cymraeg fel sylfaenwyr Y Lolfa, cwmni sy’n cyflogi dau ddwsin o staff.

Mae Robat Gruffudd hefyd yn awdur ac ymgyrchydd, ac Enid Gruffudd yn adnabyddus am ei gwaith gyda’r wasg a’r gymuned leol.

Mae cael bod yn Dywysydd yn arwydd o ddiolch a gwerthfawrogiad cymuned Aberystwyth i berson neu bersonau lleol sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i iaith a diwylliant Cymru.

Bydd y Parêd yn dechrau o Gloc y Dref i waelod y Stryd Fawr, ac yna troi i’r chwith ar gornel Banc Barclays am Ffordd y Môr a syth am Lys-y-Brenin.

Bydd top y rhannau o Stryd y Baddon a Ffordd y Môr sy’n ffinio â Llys y Brenin ar gau i gerbydau am gyfnod y Seremoni.

Mae’r trefnwyr yn dweud eu bod yn “hynod ddiolchgar am nawdd – Cyngor Tref Aberystwyth am eu nawdd hael a Chlwb Cinio Aberystwyth am eu nawdd a chymorth”.

Bywyd a gyrfa

Trwy gyd-ddigwyddiad, ganed Robat ac Enid yn Llwyn-y-pia, yn y Rhondda, o fewn mis i’w gilydd, ond magwyd Enid yn Ael Dinas (Dinas Terr.), Trefechan, Aberystwyth, tra i Robat gael ei fagu yn Abertawe.

Sefydlodd Robat y cylchgrawn dychanol ac eiconig, Lol yn 1965 ym Mangor gyda’i ffrind, y diweddar awdur, Penri Jones.

Croedd y cylchgrawn gynnwrf mawr ond roedd yn rhan o’r mudiad gwleidyddol a diwylliannol a lusgodd y Gymraeg i fod yn iaith gyfoes ac ifanc.

Aeth yn ei flaen i sefydlu Gwasg Y Lolfa yn 1967 yn Nhal-y-bont ac mae’r cwmni bellach cael ei rhedeg gan eu meibion Garmon a Lefi; mae Einion eu mab hynaf yn gweithio fel arweinydd prosiect yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Mae’r Lolfa nid yn unig yn cyhoeddi llyfrau poblogaidd Cymraeg a Saesneg, ond mae Robat Gruffudd ei hun hefyd yn awdur wedi cyhoeddi nifer o nofelau, cyfrol o farddoniaeth a Lolian, dyddiadur hanner canrif.

Mae diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru a’r Gymraeg wastad wedi bod yn bwysig i Robat, ac roedd ef – ynghyd ag Enid – ym mhrotest enwog Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Bont Trefechan yn 1963 pan ddechreuwyd y mudiad dorfol dros hawliau i’r iaith Gymraeg.

Bu Enid Gruffudd yn athrawes yn Nhal-y-bont cyn magu teulu yno a gweithio i’r Lolfa am gyfnodau tra’n cymryd rhan mewn protestiadau dros yr iaith Gymraeg ac yn erbyn arfau niwclear.

‘Cyfraniad anferthol’

“Rydym yn hynod falch fod Robat ac Enid Gruffudd wedi derbyn ein cais i fod yn Dywyswyr eleni,” meddai Siôn Jobbins, cadeirydd y Parêd.

“Mae cyfraniad y ddau trwy sefydlu a rhedeg gwasg Y Lolfa yn anferthol.

“Daeth y wasg ag ysbryd newydd i ddiwylliant Cymraeg ond mae hi hefyd wedi gwneud cyfraniad anferth wrth gyhoeddi cannoedd o lyfrau Saesneg yn esbonio Cymru i gynulleidfa ryngwladol.

“Roedd penderfyniad Robat ac Enid i sefydlu’r wasg yn Nhal-y-bont fel rhan o athroniaeth i greu gwaith yn ardaloedd gwledig Cymraeg eu hiaith yn holl bwysig.

“Tyfodd y cwmni yn gyflogwr amlwg yng ngogledd Ceredigion gan ddod â swyddi proffesiynol, da i’r ardal.”

‘Braint a phleser’

“Bydd arwain y Parêd yn fraint ac yn bleser i ni,” meddai Robat Gruffudd.

“Bydd yn anrhydedd cael dilyn yn llinach y tywyswyr gwych a fu o’n blaenau.

“Ond pwysicach na’n cyfraniad ni i fywyd Cymreig yr ardal, yw cyfraniad allweddol yr ardal a’i Chymreictod i’n llwyddiant ni fel gwasg.

“Does dim modd dychmygu’r Lolfa yn ffynnu yn unrhywle ond yn Nhal-y-bont.”

Dilyn Merêd, Ned Thomas ac eraill

Wrth siarad â golwg360 ar drothwy’r Parêd, dywedodd Robat Gruffudd ei fod yn “teimlo’n freintiedig i gael dilyn traed Merêd, Ned Thomas ac eraill”.

“Mae’n fraint fawr,” meddai.

“Mae Sion Jobbins i’w ganmol yn fawr iawn am gadw’r Parêd i fynd achos mae e’n ddathliad o Gymreictod yn flynyddol ac yn cyflwyno Cymreictod i bobol y dre’ ac ymwelwyr, felly mae’n beth da iawn.

“Ac wrth gwrs, mae Dydd Gŵyl Dewi yn bwysig, yn arbennig os ydyn ni’n gorfod dathlu pen-blwydd y Cwîn!

“Wrth gwrs, dylen ni gael [diwrnod o wyliau],” meddai wedyn, wrth ymateb i’r ymdrechion i sicrhau diwrnod o wyliau ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.

“Mae pob gwlad yn dathlu ei nawddsant a’i bodolaeth.

“Mae’n ffordd o ddathlu’r wlad ei hun hefyd.”

Traddodiad y ffon gerdded a’r sash

Mae Begotxu Olaizola Elordi wedi bod yn egluro rhywfaint am hanes a thraddodiad y ffon gerdded, sy’n cael ei hadnabod yng Ngwlad y Basg fel makila.

“Mae makila yn rywbeth ti’n rhoi i rywun i dalu teyrnged neu i ddiolch i rywun am y gwaith mae o neu hi wedi bod yn ei wneud,” meddai wrth golwg360.

“Rydan ni’n gymdeithas lle mae bugeiliaid yn bwysig.

“Mewn unrhyw gymdeithas neu blaid, mae’n rywbeth symbolaidd i’w roi i rywun.

“Mae hi dipyn bach yn ddrud i’w rhoi bob blwyddyn, ond mae’n eithaf arferol ei rhoi i rywun, er enghraifft, sy’n ymddeol neu sydd wedi bod yn bwysig mewn mudiad, plaid, ysgol, ffatri… mae’n ffordd o ddweud ’diolch yn fawr’.

“Dim ond dynion oedd yn ei gael o, ond rŵan mae pawb yn ei gael o, ac mae fersiwn i ddynes hefyd.

“Rydan ni wedi dechrau rhoi rhywbeth fel cangen neu o bren hefyd, ffon sy’n dod o’r syniad o roi rhywbeth sydd wedi’i wneud o bren i ddiolch i bobol am bopeth maen nhw wedi’i wneud dros y blynyddoedd.

“Mae’n siŵr ei fod e wedi dechrau fel rhywbeth i’w roi i ddynion pwysig iawn fel arlywydd neu rywun tebyg, ond nawr mae wedi cael ei ddemocrateiddio.

“Mae makila rwyt ti’n gallu prynu sydd ddim mor neis ond mae yna makila sy’n cael ei wneud â llaw sy’n ddrutach ac mae yna bobol sy’n gwybod sut i’w gwneud nhw – weithiau rwyt ti’n cael neges fach tu fewn hefyd.”