Bydd Urdd Gobaith Cymru yn cynnal cynhadledd “arloesol” heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 5) i ysbrydoli merched ym maes chwaraeon ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol y Merched (dydd Mawrth, Mawrth 8).

Cynhadledd #FelMerch yw’r gynhadledd chwaraeon ieuenctid benywaidd gyntaf erioed i gael ei chynnal yng Nghymru, a’r nod fydd ysbrydoli, cefnogi, a grymuso mwy o ferched 16 i 25 oed i ymwneud â chwaraeon.

Bydd 150 o ferched o bob cwr o Gymru yn dod ynghyd yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd dros y penwythnos hwn (Mawrth 5 a 6), ac yn mwynhau sgyrsiau a gweithdai amrywiol.

Y gyflwynwraig a’r athletwraig Lowri Morgan fydd yn arwain y gynhadledd ddwyieithog, a bydd sgyrsiau eraill gan ferched megis Gemma Grainger, Hollie Arnold, yr Athro Laura McAllister, Natasha Harding, Elinor Snowsill, Gwennan Harries, Dyddgu Hywel a Francesca Antoniazzi.

Mae’r gynhadledd yn benllanw blwyddyn gyntaf prosiect #FelMerch, a gafodd ei lansio gan yr Urdd ym Mehefin 2021 mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru, er mwyn mynd i’r afael â’r ffaith fod merched ifanc yn fwy tebygol o roi’r gorau i chwaraeon yn eu harddegau, yn enwedig ers i’r pandemig daro.

‘Cynyddu hyder’

Dywed Gemma Grainger, Rheolwr Tîm Pêl-droed Merched Cymru, ei bod hi’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o’r gynhadledd.

“Fel y prosiect #FelMerch, bydd y penwythnos yn hollbwysig o ran cynyddu hyder merched i gymryd rhan mewn chwaraeon a chynyddu’r cyfleoedd a’r ddarpariaeth mewn chwaraeon i ferched ar draws Cymru,” meddai Gemma Grainger.

“Gwelais yn uniongyrchol lwyddiant #FelMerch ar ymweliad i Wersyll Llangrannog, a sut mae’r Urdd yn cefnogi merched i fynychu gemau pêl-droed y tîm merched cenedlaethol drwy drefnu cludiant i’r gemau.

“Dwi’n edrych ymlaen at weld #FelMerch yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol.”

‘Ysbrydoli a grymuso’

Ychwanega Hollie Arnold, taflwr gwaywffon sydd wedi cipio medalau Paralympaidd a thorri sawl record byd, fod “menywod ifanc wedi clywed erioed gan eraill na allan nhw gyflawni rhywbeth, neu nad ydyn nhw’n ddigon da oherwydd eu rhyw”.

“Rwyf wedi wynebu heriau yn fy mywyd yn tyfu i fyny ag anabledd, ond rwyf bob amser wedi ei ddefnyddio fel mantais. I fi, mae meddylfryd ac agwedd yn allweddol i gyflawni beth bynnag fo’r her,” meddai.

“Mae pob merch ifanc yn haeddu’r un cyfleoedd a dyna pam rydw i mor falch o gymryd rhan yng nghynhadledd chwaraeon ieuenctid benywaidd gyntaf Cymru, #FelMerch, gan helpu i ysbrydoli, grymuso a darparu cyfleoedd i gefnogi merched ifanc i gyflawni eu llawn botensial a chyrraedd eu huchelgais.”

Popeth yn bosib

Un o siaradwyr ifanc y gynhadledd yw Francesca Antonizzi o Ynys Môn, chwaraewraig pêl-rwyd a dorrodd ei chefn mewn damwain bum mlynedd yn ôl.

Francesca Antoniazzi

Yn hytrach na rhoi’r gorau i chwaraeon, dechreuodd chwarae pêl-fasged cadair olwyn a chodi pwysau, ac mae hi wedi cipio dwy fedal aur ym Mhencampwriaeth Cymru a dwy fedal arian ym Mhencampwriaeth Prydain.

“Mae pethau’n ymddangos yn amhosib, nes eich bod yn eu cyflawni,” meddai.

“Mae wastad ffordd o gyflawni, hyd yn oed os oes rhaid gofyn am help, nid yw gofyn am help yn wendid.”

‘Ymateb gwych’

Bydd y gynhadledd yn gyfle i ystyried chwaraeon mewn cyd-destun ehangach hefyd.

Fe fydd yr hyfforddwraig Catrin Ahmun yn trafod ffitrwydd ac iechyd meddwl, bydd sesiwn am y berthynas rhwng bwyd a chwaraeon gyda’r gogyddes Beca Lyne-Pirkis, a sesiwn am chwaraeon a delwedd y corff gyda’r model a chyn-gystadleuydd Love Island Connagh Howard.

Fel rhan o’r penwythnos, bydd cyfle i rannu syniadau, trafod cyfleoedd gwirfoddoli, hyfforddiant, a chymwysterau yn y maes chwaraeon, a dywed Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, fod sicrhau cefnogaeth a chyfleoedd i ferched ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon yn “hollbwysig” i’r mudiad.

“Mae 56% o’r bobol ifanc sy’n cymryd rhan yn ein darpariaeth chwaraeon wythnosol yn ferched,” meddai Siân Lewis.

“Mae’r prosiect #FelMerch wedi arwain at gyfleodd pellach i ferched ym maes chwaraeon; gweithgareddau wythnosol cynhwysol, fforymau trafod, hybiau cymunedol yn ystod y gwyliau a llawer mwy.

“Mae’r ymateb wedi bod yn wych a’r gobaith yw y bydd y gynhadledd hon yn helpu ysbrydoli cenhedlaeth o ferched Cymru i brofi’r budd o ymwneud â phob agwedd o chwaraeon.”

  • Gallwch ddarllen mwy am brofiadau Francesca Antoniazzi yn Golwg yr wythnos nesaf.

Prosiect #FelMerch yr Urdd yn gyfle i “chwalu’r rhwystrau sy’n atal merched rhag cymryd rhan mewn chwaraeon”

Cadi Dafydd

Elinor Snowsill, maswr Cymru a Bryste, yn trafod pwysigrwydd prosiect #FelMerch a rhai o’r heriau oedd yn ei hwynebu fel merch ifanc ym myd chwaraeon