Mae prosiect newydd yr Urdd am sicrhau ei bod hi mor hawdd â phosib i ferched gymryd rhan mewn chwaraeon – ac mae un o chwaraewyr rygbi tîm merched Cymru a Bryste yn dweud y bydd cynllun yn creu “lle diogel” i ferched, yn cynnig cyfleoedd, ac yn galluogi hyfforddwyr i fod yn esiampl i bobol ifanc.

Nod #FelMerch, sy’n cael ei lansio heddiw (dydd Iau, Mehefin 17) yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, yw ysbrydoli, cefnogi a grymuso merched 14-25 oed i gadw’n heini, a chwalu’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan mewn chwaraeon.

Dangosodd ymchwil diweddar fod perygl gwirioneddol i genhedlaeth o ferched roi’r gorau i chwaraeon, ac mae’r Urdd am sicrhau bod pob merch, beth bynnag eu gallu neu brofiad, yn cael cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon hamdden.

Mae llai na hanner (45%) y merched yn eu harddegau yn cadw’n heini, yn ôl ymchwil Always, gyda thri chwarter y rhai nad ydyn nhw’n cadw’n heini yn teimlo bod angen mwy o gefnogaeth arnyn nhw i’w cadw nhw mewn chwaraeon.

Mae ymchwil gan Chwaraeon Cymru, sy’n cefnogi’r prosiect #FelMerch, yn dangos bod y pandemig wedi arwain at fwy o fenywod yn dweud eu bod nhw’n gwneud llai o chwaraeon, yn teimlo’n euog am beidio â chadw’n heini ac yn poeni am adael y tŷ.

Meddyliol

“Fi’n meddwl bod e’n rili bwysig,” meddai Elinor Snowsill, sydd wedi’i magu yng Nghaerdydd, am y prosiect #FelMerch.

“Fi’n gwybod bod yna gwpwl o ystadegau yn dweud cymaint o ferched rydyn ni wedi’u colli mewn chwaraeon oherwydd y pandemig, ond fi’n gweld e fy hun yn fy ngwaith dyddiol.

“Gymaint o’r merched oedd yn arfer cymryd rhan mewn chwaraeon, hyd yn oed os jyst yn ymarfer corff yn yr ysgol, mae wedi rili lleihau.

Mae “lot o resymau gwahanol” am hyn, meddai, gan gynnwys “merched ddim yn teimlo’n hapus gyda sut maen nhw’n edrych, wedi bod i ffwrdd mor hir, wedi colli lot o hyder yn y lockdown – yn enwedig y rhai sydd rhwng 14 ac 18″.

“Maen nhw wedi rili stryglo’n feddyliol dros y lockdown, lot ohonyn nhw,” meddai wedyn.

“I fi, mae’n rili pwysig ein bod ni’n gwneud e mor hawdd â rydyn ni’n gallu i’r merched yma gymryd rhan mewn chwaraeon.

“Does dim rhaid iddo fod yn rhywbeth rhy gystadleuol, beth bynnag maen nhw’n moyn gwneud dw i’n meddwl bod e mor bwysig fod y cyfleoedd yna, a bod e’n hawdd iddyn nhw, bod e ddim yn challenge iddyn nhw ffeindio beth, neu sut i’w wneud yn y lle cyntaf.”

Naturiol

“Nes i rili stryglo yn mynd o chware gyda’r bois i chwarae gyda’r merched yn ifanc,” eglura Elinor Snowsill wedyn.

“Pryd ro’n i’n tyfu lan, doedd dim gymaint o gyfleoedd timau pêl-droed merched, pryd ro’n i’n rili ifanc, so wnes i ddechrau off yn chware i’r Urdd i’r bois – oedd e’n iawn, ond yn ôl yn y dyddiau hynny, doedd bois ddim yn pasio i ferch, so roedd rhaid i fi roi’n hun yn yr amddiffyn, taclo nhw, a dyna’r unig ffordd ro’n i’n gallu cael y bêl os oeddwn i’n cael y bêl fy hun.

“Falle bod e wedi helpu fi ychydig bach fel chwaraewraig, ond ar yr un pryd, roedd mynd yna yn sialens roedd rhaid i fi ddod dros yn lle ei fod yn rhywbeth naturiol i’w wneud.

“Mae’r sefyllfa wedi gwella, mae yna fwy o gyfleoedd i ferched, yn enwedig mewn pethau fel pêl-droed a rygbi. Doedd ddim pan ro’n i’n ifanc.

“Ond mae yna dal fwy o le i wella.

“Dw i’n mynd mewn i ysgolion ac maen nhw’n dal i wneud cwricwlwm Addysg Gorfforol gwahanol i ferched ac i’r bois.

“I fi, pam so chi’n rhoi’r dewis iddyn nhw? Chi’n gallu chware’n gymysg. Chi’n gallu chware’r rhan fwyaf o gampau’n gymysg, heb law am rai gyda chyffyrddiad.”

‘Lle diogel’

Pe bai prosiect tebyg i #FelMerch yn bod pan oedd hi’n ifanc, mae Elinor Snowsill yn credu y byddai hi wedi “teimlo’n fwy cyfforddus” yn mynd i ymarferion chwaraeon megis pêl-droed.

“Ges i bach o saib o chwaraeon pryd ro’n i’n fy arddegau, a dyna’r amser sy’n beryglus i ni allu colli merched.

“Wnes i bron iawn colli, ond yn lwcus roedd gyda fi athrawes Addysg Gorfforol rili da, a gafodd hi fi’n ôl mewn i rygbi a phêl-droed.

“Ond beth os nad oes gyda nhw’r athrawes sy’n ysbrydoli nhw, mae mor bwysig fod prosiectau fel yr Urdd yn rhoi’r role models yna.

“Mae’r hyfforddwyr, a phawb sy’n gweithio yn yr Urdd, yn gallu bod yn role models i’r bobol ifanc, a jyst rhoi’r cyfleoedd iddyn nhw.

“I fi, mae e’n lle diogel iddyn nhw, lle diogel ble mae merched yn gallu mynd, dyn nhw ddim yn teimlo fel eu bod nhw’n cael eu barnu.

“Mae lot o ferched dw i’n gweithio gyda nhw mewn ysgolion… os mae grŵp o fois yn cerdded heibio’r cae lle ni’n ymarfer, gwnawn nhw stopio achos ’dyn nhw ddim moyn ymarfer o flaen y bois.

“Cyfle i fod jyst mewn grŵp merched fyddai’n ddelfrydol.”

Datblygu gyrfa

“Ar y foment, mae e’n ddigon hawdd i fachgen ddweud ‘Dw i mo’yn gwneud gyrfa ma’s o chwaraeon, fi mo’yn bod yn chwaraewr proffesiynol,” meddai, wrth sôn am bethau eraill mae’n rhaid eu gwneud er mwyn sicrhau bod merched yn cael pob cyfle posib yn y maes.

“Dyw hwnna ddim cweit yr un sefyllfa i ferched, so mae merched yn gynnar iawn yn gorfod gwneud y dewis yna – ydw i’n mynd i ganolbwyntio ar Lefel A neu beth bynnag maen nhw’n ei wneud yn y Coleg neu TGAU, achos dw i’n gwybod fod rhaid i fi gael gyrfa achos dw i methu ennill arian trwy wneud chwaraeon, neu ydw i actually yn gallu cymryd yr amser yma i daflu’n hun mewn i chwaraeon i weld pa mor bell dw i’n gallu mynd?

“Mae yna gymaint o Academis bois, pêl-droed, rygbi, beth bynnag, sy’n paratoi nhw ar gyfer bod yn athletwyr proffesiynol. Maen nhw’n cael y gefnogaeth maeth, sut i fod yn y gym…

“Dyw merched ddim rili’n cael hynna o oedran ifanc, tan maen nhw’n gwneud hi.

“Mae’n rhaid iddyn nhw ei gwneud hi i gael y gefnogaeth yna.”

Cryf, dawnus, pobol i’w parchu

Yn ôl Elinor Snowsill, mae faint o chwaraeon merched sy’n cael ei ddangos ar y teledu ac yn derbyn sylw yn y cyfryngau wedi gwella, ond mae “lle i wella”, meddai.

“Pryd ro’n i’n ifanc, dw i’n meddwl mai Kelly Holmes oedd yr un roedd pawb yn gweld yn y cyfryngau, ac efallai Jess Ennis pan ro’n i’n y brifysgol,” meddai.

“Y ffaith mod i’n gallu enwi jyst cwpwl ar un llaw. Beth os fysen i’n gofyn i ddeg bachgen pwy oedd eu hysbrydoliaeth nhw’n tyfu fyny? Gallen nhw probably enwi deg dyn gwahanol i chi.

“Mae e wedi gwella, ond mae yna wastad sut gymaint o le i wella.

“Ers iddyn nhw ddechre dangos gemau’r Chwe Gwlad ar y teledu, mae hwnna wedi gwella gymaint,” meddai, wrth gyfeirio at y ffaith fod gweld merched ym maes chwaraeon yn y cyfryngau yn cynyddu diddordeb ymysg merched.

“A dim jyst i ferched, fi wedi cael bois yn dod lan i fi yn y stryd yn mo’yn llun, neu’n mo’yn tips rygbi a phethau fel yna.

“Dyw hwn ddim jyst am roi modelau rôl i ferched, yn amlwg mae hwnna’n rili pwysig, ond mae e hefyd yn rhoi modelau rôl i fois bod menywod yn gallu bod yn gryf, yn ddawnus a’u bod nhw yn bobol i barchu.

“I fi mae e i bawb, mae’n rhaid i ni gael mwy o ferched sydd ar dop eu gêm, neu ar dop eu camp, yn y cyfryngau.”