Mae llyfr newydd i blant fydd yn cael ei gyhoeddi ar Ddiwrnod y Llyfr (dydd Iau, Mawrth 3) yn gyfle i “ddathlu’r antur mae llyfrau’n gallu ei roi i ni”, yn ôl yr awdur.

Bydd Lledrith yn y Llyfrgell gan Anni Llŷn yn cael ei gyhoeddi fory i gyd-fynd â dathliad pen-blwydd elusen Diwrnod y Llyfr yn 25 oed.

Mae’r diwrnod yn gyfle i lyfrau ddod yn rhan o fywyd bob dydd, meddai Anni Llŷn, ac yn codi awydd ar bobol i werthfawrogi cymeriadau a straeon llyfrau Cymru.

Llyfr i blant Cyfnod Allweddol 2 ydy Lledrith yn y Llyfrgell, ac fe fydd ar werth am £1.

“Llyfr bach, byr, penodau byrion a stori eithaf ysgafn am bentref hudol o’r enw Llanswyn-ym-Mochrith lle mae gan bob oedolyn ryw allu hudol oni bai am y llyfrgell, Chwim,” meddai Anni Llŷn wrth golwg360.

“Y stori yma ydy sut mae Chwim yn darganfod fod ganddi hi ryw fath o hud a lledrith.

“Mae hi’n stori fach gafodd ei sgrifennu’n eithaf sydyn, â dweud y gwir, yn dathlu llyfrau a llyfrgelloedd, a’r antur mae llyfrau’n gallu ei roi i ni.

“Gefais i hwyl ofnadwy wrth greu cymeriadau’r pentref bach rhyfedd yma.”

‘Dod â llyfrau’n fyw’

Mae Diwrnod y Llyfr yn gwahodd pawb i barti i ddathlu gorffennol, presennol, a dyfodol eleni er mwyn dathlu’r 25, ac mae Cyngor Llyfrau Cymru’n annog pobol i fynd draw i’w siop lyfrau neu lyfrgell leol i ddarganfod pa lyfrau sy’n cydio yn eu dychymyg.

Yn ôl Anni Llŷn, mae’r diwrnod yn “andros y bwysig”, yn enwedig yng Nghymru.

“Mae llenyddiaeth wedi chwarae gymaint o ran bwysig yn ein hanes ni ac yn ein datblygiad ni fel cenedl, a dw i wrth fy modd efo llyfrau plant yn naturiol, oherwydd dyna dw i’n hoffi’u sgrifennu,” meddai.

“Mae o jyst yn ffordd berffaith o ddod â digwyddiad lle mae yna wisgo fyny, a dod â llyfrau oddi ar y silffoedd, a dod â nhw’n fyw, a chodi awydd ar rywun i chwilio am y cymeriadau, a gwerthfawrogi’r cymeriadau a’r llyfrau yma sy’n bodoli yn ein llyfrau ni.

“Mae o’n arf marchnata a hyrwyddo gwych, ond mae o hefyd yn ffordd o ddod â llyfr i fod yn rhan o fywyd bob dydd rywsut.”

Mae llyfrau Gwlad y Rwla gan Angharad Tomos yn ffefrynnau yn nhŷ Anni Llŷn, sydd â dwy ferch fach.

“Un o’r pethau dw i’n licio’u darllen pan dw i’n darllen efo genod bach fi rŵan ydy llyfrau lle mae yna bethau annisgwyl yn digwydd.

“Pan roeddwn i’n blentyn roeddwn i’n licio darllen llyfrau T Llew Jones, fe wnes i ddarllen nhw eto’n ddiweddar, rhywbeth am yr antur yn y rheina yn fy nghael i.”

Mae Anni Llŷn yn bwriadu gwisgo fyny fel un o gymeriadau Lledrith yn y Llyfrgell ar gyfer cynnal gweithdy mewn ysgol gynradd ym Mhen Llŷn fory, gan ddod â’r cymeriadau’n fyw.

Bydd Anni Llŷn yn cynnal gweithdy ysgrifennu creadigol yng Ngŵyl Amdani, gŵyl ddarllen i ddysgwyr, nos fory (nos Iau, Mawrth 3) hefyd.

Dathlu darllen plant ar ben-blwydd Diwrnod y Llyfr yn 25 oed

Eleni, mae Diwrnod y Llyfr am ysbrydoli plant a theuluoedd i ystyried eu hunain yn ddarllenwyr ac i ddarllen gyda’i gilydd yn amlach