Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnal Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg rithiol, ‘Amdani’, am yr eildro rhwng Chwefror 28 a Mawrth 4.

Ymhlith yr uchafbwyntiau fydd gweithdy ysgrifennu creadigol yng nghwmni Anni Llŷn ar nos Iau, Mawrth 3 am 7 o’r gloch, a Ffair Lyfrau i Rieni.

Mae’r digwyddiad yn agored i ddysgwyr ar lefel Canolradd ac i fyny, sy’n dymuno rhoi pin ar bapur yng nghwmni’r awdur a’r cyflwynydd adnabyddus.

Nod yr ŵyl yw dathlu’r gyfres o lyfrau i ddysgwyr ac annog dysgwyr i fwynhau defnyddio eu Cymraeg trwy ddarllen.

‘Llond trol o ddigwyddiadau’

Bydd gig gan Robat Arwyn hefyd, yn ogystal â chlwb darllen gyda’r awdur Sarah Reynolds, a sesiwn ioga cadair gyda Laura Karadog a Catrin Jones.

Yn ychwanegol, bydd y Ganolfan yn cyhoeddi podlediad rhwng Jo Heyde, wnaeth gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth ‘Dysgwr y Flwyddyn’ y llynedd, a’r awdur Caryl Lewis.

Bydd straeon newydd i ddysgwyr yn cael eu cyhoeddi gan Pegi Talfryn a Lleucu Roberts, a bydd enwogion yn datgan beth yw eu hoff lyfrau a pham ar ffurf fideo.

Mae cystadleuaeth ysgrifennu stori hefyd yn cael ei chynnal fel rhan o’r ŵyl, ar y cyd â’r Eisteddfod Genedlaethol, a bydd y straeon buddugol yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr ŵyl.

Yn y cyfamser, bydd erthyglau dyddiol wedi’u teilwra ar gyfer dysgwyr yn cael eu cyhoeddi ar wefan golwg360, ac mae llu o bartneriaid eraill, gan gynnwys BBC Radio Cymru ac S4C, yn bwriadu cefnogi’r ŵyl.

“Mae darllen yn ffordd wych i’n dysgwyr fwynhau defnyddio’u Cymraeg, a bydd yr ŵyl yn tanlinellu’r cyfoeth o lyfrau a deunyddiau difyr sy ar gael, gan gynnwys cyfres lwyddiannus ‘Amdani’,” meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Mae llond trol o ddigwyddiadau wedi’u trefnu a dyn ni’n hyderus bod arlwy’r wythnos yn cynnig rhywbeth i ddysgwyr ar bob lefel.’’