Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sefydlu mecanwaith i wella diffygion diogelwch tân sydd wedi dod i’r amlwg ar ôl trasiedi Tŵr Grenfell, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.
Yn ystod sesiynau cwestiynau’r Prif Weinidog ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 8), gofynnodd Jane Dodds, arweinydd y blaid, i Mark Drakeford am y cynnydd mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud wrth gefnogi preswylwyr a landlordiaid mewn adeiladau sydd â diffygion tân posib.
Daw’r cwestiwn ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi deddfwriaeth newydd a fydd yn gwarchod lesddeiliaid rhag gorfod talu costau diffygion tân mewn adeiladau.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i dalu i ailgladio tai cymdeithasol, mae nifer o lesddeiliaid preifat yn wynebu costau er mwyn gwneud gwelliannau i ddiogelwch tân a gwaith ailgladio.
‘Amddiffyn pobol’
“Ddiwedd mis Ionawr, fe wnes i gynnal cyfarfod cyhoeddus yma ar risiau’r Senedd i wrando ar y rhai sy’n cael eu heffeithio ac wedi’u dal mewn trasiedi lwyr a sgandal cenedlaethol,” meddai Jane Dodds yn y Senedd.
“Brif Weinidog, siaradais i ag un pensiynwr, Eileen, sy’n talu £511 y mis mewn costau gwasanaethau.
“Mae ei hincwm, sef ei phensiwn misol, yn £800 y mis. Derbyniodd un o’r rhai oedd yn y cyfarfod fil o filoedd o bunnoedd gyda dim ond 25 niwrnod i’w dalu. Mae eraill yn wynebu biliau o £50,000 dros y flwyddyn nesaf.
“Gwaith Llywodraeth Cymru yw amddiffyn pobol, ac mae’n rhaid iddi sefydlu mecanwaith ar unwaith i wella diffygion ac atal pobol rhag wynebu biliau cynyddol, dinistriol.
“Mae’n rhaid i ni flaenoriaethu diogelwch pobol cyn mynd ar ôl datblygwyr. Mae gan Lywodraeth Cymru’r grym ariannol i fynd ar ôl cwmnïau am iawndaliadau dros nifer o flynyddoedd, rhywbeth sydd ddim yn bosib i’r rhan fwyaf o’r dinasyddion preifat sydd wedi’u heffeithio gan y sgandal hwn.”
‘Gadael datblygwyr yn rhydd’
Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford nad oedd yn “hollol siŵr ei fod yn dilyn pwynt olaf” Jane Dodds, “oherwydd mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu darparu cyllid o’r math hwnnw, ond gwneud hynny mewn ffordd sydd ddim yn creu perygl moesegol drwy wneud i’r pwrs cyhoeddus dalu am broblemau mae datblygwyr eu hunain wedi’u creu a gadael datblygwyr yn rhydd”.
“Dw i’n meddwl bod y pwynt hwnnw wedi’i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn Lloegr, Michael Gove, pan ddywedodd ei fod yn disgwyl i’r diwydiant gyfrannu’r £4bn a fydd ei angen i wneud iawn am y camgymeriadau sydd wedi’u creu gan y diwydiant,” meddai Mark Drakeford.
“Os yw’r pwrs cyhoeddus yn camu mewn a thalu’r biliau, pa ysgogiad fydd yno i’r datblygwyr nesaf sicrhau nad yw eu hadeiladu nhw’n dioddef o’r un diffygion?”