Mae angen i Lywodraeth Cymru gynnig eglurdeb ar fyrder, a datrysiad sydyn, i’r “argyfwng cladio” sy’n wynebu lesddeiliaid, meddai un ymgyrchydd.

Yn ôl Kelly Wood, sy’n aelod o’r grŵp ymgyrchu’r Welsh Cladiators, mae’r diffyg cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru i lesddeiliaid preifat dalu am wneud gwelliannau i ddiffygion tân “yn rhwystredig”.

Mae Kelly Wood yn berchen ar fflat yn Celestia Developments ym Mae Caerdydd, a gafodd ei brynu gan Redrow yn 2007 ac ers trasiedi Grenfell yn 2017, mae hi wedi dod i’r amlwg fod yna nifer o ddiffygion diogelwch tân yn y fflatiau.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i dalu i ailgladio tai cymdeithasol, mae nifer o lesddeiliaid preifat yn wynebu costau er mwyn gwneud gwelliannau i ddiogelwch tân a gwaith ailgladio.

Mae rhai lesddeiliaid yng Nghaerdydd yn wynebu biliau o £60,000 am waith i wneud gwelliannau diogelwch tân i’w cartrefi, ac mae Kelly Wood yn amcangyfrif y bydd ei bil hi’n £25,000 dros bedair i bum mlynedd.

Ar ben hynny, mae premiymau yswiriant yn “eithriadol o uchel” yn sgil y problemau diogelwch tân.

Mae Ysgrifennydd Tai’r Deyrnas Unedig, Michael Gove, wedi dweud bod y farchnad yswiriant yn “methu” rhai lesddeiliaid sy’n byw mewn fflatiau gan fod y premiymau wedi “codi’n sydyn” ar ôl trasiedi Grenfell.

Yn sgil hynny, bydd rheoleiddiwr cyllid y Deyrnas Unedig yn adolygu’r farchnad yswiriant adeiladau.

‘Rhwystredig iawn’

“Ar ôl trasiedi Grenfell yn 2017, pan gafodd 72 o deuluoedd eu heffeithio ar ôl y tân gododd yn uchel yn y tŵr, daeth yn amlwg bod pobol yn byw mewn blociau o fflatiau anniogel, a dal yn byw mewn blociau o fflatiau anniogel yn sgil diffygion diogelwch tân,” meddai Kelly Wood wrth golwg360.

Mae’r diffygion diogelwch tân yn gallu amrywio, meddai, gan gynnwys cladin sy’n rhywbeth allanol, a materion mewnol eraill megis systemau chwistrellau dŵr, a systemau i stopio tân rhag symud o un fflat i’r llall.

Dywed Kelly Wood fod y sefyllfa’n “rhwystredig iawn”, yn enwedig o ystyried y sefyllfa yn Lloegr, gan fod cyllid ar gael yno i lesddeiliaid sy’n byw mewn blociau o fflatiau dros 18 metr.

“Mae e’n eithaf rhwystredig bod y cyllid hwn ar gael yn Lloegr, ond yn anffodus dydyn ni ddim yn gweld dim o’r cyllid hwnnw yng Nghymru,” meddai.

“Fy nealltwriaeth i yw bod yna 15 bloc sydd wedi cael eu gwella, y cladin wedi cael ei newid mewn 15 bloc cymdeithasol…

“Ond yn y sector breifat, dydyn ni ddim yn gweld hynny o gwbl.”

‘Methu talu’

Mae’r Welsh Cladiators, a grwpiau ymgyrchu eraill fel Cymru Cladding Crisis a Ripped off by Redrow, am weld eglurdeb, amserlen a datrysiad i’r argyfwng “mor fuan â phosib” gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd protest ei threfnu gan y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar risiau’r Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Sadwrn (Ionawr 29), yn galw am weithredu.

“Dyw pobol methu talu’r biliau hyn. Maen nhw’n achosi problemau iechyd meddwl anferth, a stresses mawr,” meddai Kelly Wood.

“Roedd gennych chi lesddeiliaid o bob oed yn y brotest, ac roedd yna ddynes 80 oed yno’n dweud ei bod hi’n cael pensiwn o £800 y mis a bod £511 o hwnnw’n mynd tuag at y gronfa adfer, a bod ganddi £250 ar ôl bob mis.

“Dyma sy’n digwydd ar lawr gwlad, dydyn ni ddim yn gweld unrhyw gynnydd o ran y cyllid sy’n cyrraedd lesddeiliaid yng Nghymru.

“Rydyn ni eisiau eglurdeb ar fyrder, a datrysiad sydyn, oherwydd mae pobol yn wynebu biliau anferth ac mae’r problemau iechyd meddwl wir yn cael effaith ar bobol a’u teuluoedd.

“Mae gwneuthurwyr polisi wedi cydnabod nad oes bai ar lesddeiliaid yn yr argyfwng hwn, ac na ddylen ni orfod talu’r gost. Ond dydyn i ddim yn gweld hynny ar lawr gwlad.”

Talu am gamgymeriadau datblygwyr

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r holl ddiffygion diogelwch tân mor sydyn â phosib, a sicrhau nad yw’r un tenant na lesddeilydd yn gorfod talu.

“Mae hi’n gwbl siomedig bod pobol dal wedi’u caethiwo mewn adeiladau anniogel ac yn cael eu gadael lawr gan y rhai mewn grym dros bedair blynedd ar ôl Grenfell,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

“Ni ddylai pobol orfod talu’r gost am gamgymeriadau mawr datblygwyr eiddo.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru gamu mewn ar frys a darparu’r cyllid i drwsio’r holl ddiffygion diogelwch tân cyn gynted â phosib.

“Yna, y Llywodraeth ddylai fynd ar ôl datblygwyr eiddo i hawlio’r arian yn ôl.

“Ni allwn ni gael pobol yn byw mewn limbo ac mewn adeiladau anniogel wrth iddyn nhw geisio mynd ar ôl datblygwyr eiddo am gyllid.”

“Rhoi pwysau ar ddatblygwyr”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n “credu’n gryf” na ddylai’r bobol sy’n byw mewn adeiladu sy’n cael eu heffeithio orfod talu am y gwaith o gywiro safonau diogelwch neu achosion o dorri rheoliadau adeiladu.

“Mae ein dulliau o fynd i’r afael â diogelwch adeiladau yn mynd y tu hwnt i gladin, ac maent yn cynnwys systemau adrannu, rhybuddio am dân a llethu tân ym mhob adeilad sy’n 11 metr ac uwch.

“Byddwn yn parhau i ymgysylltu â datblygwyr ac yn rhoi pwysau arnynt i gymryd cyfrifoldeb a gweithredu, ynghyd â chymeradwyo datblygwyr sydd eisoes wedi neilltuo cyllid ar gyfer gwaith cyweirio yng Nghymru. Maent wedi gosod esiampl i eraill.

“Rydym wrthi’n adolygu’r Datganiadau o Ddiddordeb a ddaeth i law ar gyfer Cam 1 ein Cronfa Diogelwch Adeiladau a fydd yn cefnogi gwaith arolygu manwl ar adeiladau i bennu’r gwaith cyweirio sydd ei angen fesul adeilad.

“Roedd datganiad y Gweinidog ym mis Rhagfyr yn nodi’r cynnydd sylweddol sy’n cael ei wneud o ran yr agenda diogelwch adeiladau, gan gynnwys ymrwymiad gwerth £375m yn y Gyllideb ddrafft dros y tair blynedd nesaf.”