Mae Ben Lake, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, wedi beirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig am “wastraffu” £8.7bn o arian cyhoeddus ar offer diogelu personol nad oedd modd ei ddefnyddio yn 2020-21.

Mae hyn yn cyfateb i bron cymaint â holl wariant Gwasanaeth Iechyd Cymru am yr un cyfnod, sef £9.6bn.

Ar ben hynny, lambastiodd Ben Lake y Llywodraeth am “ddileu” £4.3bn o arian a gafodd ei ddwyn o gynlluniau cymorth Covid-19.

Dywedodd y dylai’r arian gael ei adennill, gan ddweud wrth aelodau seneddol na fyddai ond yn costio £3bn i’r Trysorlys gynyddu budd-daliadau oed gwaith a Chredyd Pensiwn o 6%, yn unol â chwyddiant.

Aeth yn ei flaen i gyhuddo Llywodraeth San Steffan o wrthod “rhoi terfyn ar yr argyfwng costau byw”.

“Mae’n frawychus bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwastraffu £8.7bn o arian cyhoeddus ar PPE nad oedd modd ei ddefnyddio neu oedd yn anaddas,” meddai.

“I’w roi yn ei gyd-destun, cyfanswm cyllideb flynyddol Gwasanaeth Iechyd Cymru ar gyfer 2020-21 oedd £9.6bn.

“Mae hwn yn wastraff anghredadwy pan mae’r un Llywodraeth yn gofyn i’r cyhoedd dalu mwy mewn trethiant.”

Anghyfreithlon

“Mae tua 26% o arian cyhoeddus a gymerwyd yn anghyfreithlon o gynlluniau Covid-19 yn debygol o beidio â chael ei adennill gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, sy’n golygu y bydd tua £4.3bn o’r cyfanswm o £5.8bn a gafodd ei ddwyn o gynlluniau cymorth Covid-19 yn cael ei ddileu i bob pwrpas,” meddai Ben Lake wedyn.

“Mae’n bwysig rhoi’r ffigurau hyn mewn rhyw gyd-destun.

“Gadewch inni ystyried ffigur mawr arall sef £3bn – sef cost cynyddu budd-daliadau oedran gweithio a Chredyd Pensiwn 6% – y gyfradd chwyddiant tebygol erbyn mis Ebrill – yn hytrach na’r 3.1% arfaethedig.

“Mae’n codi’r cwestiwn, pe bai’r Trysorlys yn dymuno rhoi terfyn ar yr argyfwng costau byw byddai’n gallu fforddio gwneud hynny.

“Byddai hefyd yn gallu adeiladu tuag at ein cyfnod pontio sero-net, neu anrhydeddu addewidion i gyfateb i gyllid rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Cymru ac yn wir y rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig a’u derbyniodd yn flaenorol.”