Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar stelcian, sy’n cael ei ddioddef gan nifer sylweddol o oedolion yng Nghymru.

Dywed yr Aelod o’r Senedd Sioned Williams bod gweithredu’n bwysig “nid yn unig oherwydd yr effaith mae’n cael ar oroeswyr, ond hefyd oherwydd y bygythiad mae’n ei beri i fywyd.”

Yng Nghymru a Lloegr, mae tua un o bob pump o fenywod ac un o bob deg o ddynion wedi dweud eu bod nhw wedi profi stelcian ers troi’n 16 oed, yn ôl ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Roedd canran fawr o’r adroddiadau hynny yn cyfeirio at stelcian yn y cartref, fel arfer gan bartner neu gan aelod o’r teulu.

Bydd Plaid Cymru yn codi’r ddadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, 2 Chwefror), gan alw am gefnogaeth arbenigol i ddioddefwyr, gwella ymdriniaeth yr heddlu o faterion o’r fath, a rhoi mesurau mewn lle i ddod â stelcian i ben.

‘Problem ddiwylliannol ehangach’

Sioned Williams yw llefarydd Plaid Cymru ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb.

Dywed hi fod stelcian yn “symptom o broblem ddiwylliannol ehangach” mewn cymdeithas o drais, aflonyddu a cham-drin, yn enwedig yn erbyn menywod a merched.

Mae hi’n nodi hefyd fod pobol yn debygol o fod yn dargedau o stelcian oherwydd hil, rhywioldeb a salwch hirsefydlog neu anabledd.

“Mae pobol wedi gorfod addasu’r ffordd maen nhw’n byw eu bywydau, oherwydd yr ofn, am lawer rhy hir,” meddai.

“Ni ddylai ofn byth fod yn normal, ac eto mae’n rhywbeth y mae gormod o bobol yn ein cymdeithas wedi gorfod dysgu addasu iddo.

“Bydd 1 o bob 5 o fenywod yn profi stelcian yn ystod eu hoes – ac mae hynny ond yn cyfrif y rhai sy’n rhoi gwybod i’r heddlu amdano.

“Ond mae stelcian yn symptom o broblem ddiwylliannol ehangach. Mae trais yn erbyn menywod a merched yn dod yn llawer rhy gyffredin, gydag aflonyddu, cam-drin a thrais yn brofiad dyddiol i lawer sy’n cael eu targedu ar sail eu rhyw canfyddedig, hil, anabledd neu rywioldeb.

“Mae’n amlwg bod angen i ni wella dull yr heddlu o ymdrin ag achosion o stelcian, ac ailfeddwl am y cymorth sy’n cael ei roi i ddioddefwyr yma yng Nghymru.

“Mae gennyn ni hefyd gyfle trwy’r cwricwlwm newydd i feithrin diwylliant sy’n atal stelcian rhag digwydd yn y lle cyntaf.”