Mae cynghorydd yng Ngwynedd yn gandryll fod yr awdurdod yn ystyried codi treth y cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Bydd holl gynghorwyr y sir yn cyfarfod ar ddechrau mis Mawrth i drafod y gyllideb ar gyfer 2022/23, ac mae’n debyg bod cynyddu’r dreth yn un opsiwn sydd dan ystyriaeth.

Yn sgil effeithiau ariannol y pandemig, mae sawl cyngor sir eisoes wedi cyhoeddi y byddan nhw’n codi treth y cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf, er i Lywodraeth Cymru gytuno ar setliad ariannol i helpu awdurdodau lleol i ddelio â phwysau ychwanegol.

Codiadau treth

Teimla’r cynghorydd Llafur Siôn Jones, sy’n cynrychioli ward Bethel, y byddai llawer o bobol ar eu colled o godi’r trethi.

Mae’n dweud y gallai trigolion sy’n byw mewn eiddo Band D fod yn talu £2,556 y flwyddyn ymhen degawd, pe bai’n parhau i godi ar yr un gyfradd.

“Dw i wedi bod ar y Cyngor ers 2012,” meddai.

“Bryd hynny, fe ddechreuodd Cyngor Gwynedd ddelio gyda’r toriadau erchyll sy’n dod o San Steffan drwy godi treth y cyngor. Roedden nhw’n gwneud hynny i geisio gwneud fyny am rai o’r grantiau sydd wedi eu torri gan Lywodraeth Cymru oherwydd llymder.

“Bob blwyddyn ers 2011, mae treth y cyngor wedi codi’n gyson, a rhwng 2011 a 2021, mae treth cyngor Gwynedd wedi codi 42%, sy’n syfrdanol.

“Pe bai busnes yn codi prisiau 42%, fydden ni ddim yn siopa yno bellach, ond mae rhyddid i gynghorau godi pa bynnag ganran y maen nhw eisiau ar drigolion.

“Roedd eiddo band D yn talu £1,100 y flwyddyn yn 2011. Nawr mae’r un eiddo band D yn talu dros £1,800.

“Os bydd yr un gyfradd o gynnydd yn nhreth y cyngor yn parhau am y degawd nesaf, bydd trigolion eiddo Band D yn gorfod talu £2,556, ac mewn degawd arall bydd yn codi i £3,629.”

‘Sefyllfa hynod beryglus’

Mae Siôn Jones yn teimlo nad yw trigolion yn cael gwerth eu harian yn ôl chwaith.

“Mae’r gwasanaethau y mae trigolion yn eu derbyn wedi dirywio mewn degawd,” meddai.

“Mae gennym ni lai o wasanaethau ar gyfer gwastraff; rydyn ni wedi gweld clybiau ieuenctid yn cau, ysgolion yn cau yng Ngwynedd. Ac eto mae disgwyl i bobol dalu llawer mwy mewn trethi.

“Rhwng costau cynyddol cyfleustodau, chwyddiant, costau petrol a chostau byw cyffredinol, rydyn ni nawr yn wynebu sefyllfa hynod beryglus lle mae’n bosibl y bydd pobol yn ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd bob mis.”

Ymateb y Cyngor

“Dros y ddegawd ddiwethaf, nid yw’r cyllid y mae’r Cyngor yn ei dderbyn drwy grantiau gan y llywodraeth wedi bod yn ddigon i gwrdd â gwir gost darparu gwasanaethau lleol,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.

“Fodd bynnag, mae rheolaeth gadarn y Cyngor o’u cyllid wedi golygu ein bod ni wedi gallu osgoi toriadau di-ben-draw i wasanaethau.

“Mae hyn wedi ei gyflawni drwy gyflwyno arbedion tra hefyd yn sicrhau bod y gwasanaethau sydd bwysicaf i drigolion Gwynedd yn cael eu gwarchod gymaint â phosib.”

“Er mwyn gwneud iawn am unrhyw ddiffyg pellach, mae cynghorwyr yn ystyried lefel treth y cyngor i sicrhau bod y Cyngor yn darparu cyllideb gytbwys bob blwyddyn, a heb hynny ni fyddai’r Cyngor wedi gallu osgoi toriadau sylweddol i wasanaethau.”