Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am osod targed ar gyfer lleihau achosion o gam-drin plant o 70% erbyn 2030.

Mewn dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Chwefror 2), bydd y blaid yn galw am ganolbwyntio ar atal camdriniaeth a chydnabod effeithiau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) ar iechyd, cyrhaeddiad mewn addysg, a chamddefnyddio sylweddau.

Cafodd y targed i leihau nifer yr achosion o 70% ei gyhoeddi gan Ymddiriedolaeth WAVE, elusen ryngwladol sy’n mynd i’r afael ag achosion o drais, ond mae gweinidogion Llafur wedi cyflwyno diwygiad i gynnig y Ceidwadwyr yn cael gwared ar y targed.

Yn 2015, dangosodd ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 47% o bobol Cymru wedi dioddef o leiaf un profiad niweidiol yn ystod eu plentyndod.

Cafodd 23% ohonyn nhw eu cam-drin yn eiriol, 17% yn gorfforol, a 10% yn rhywiol.

‘Cynyddu’r ffactorau risg’

“Nid yn unig y mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEau) yn cynyddu’r ffactorau risg ar gyfer iechyd meddwl a chorfforol gwael – yn ogystal â chynyddu’r risg o gael canlyniadau addysg gwaeth, trais, a beichiogrwydd cynnar – maen nhw’n gallu cynyddu’r risg o farw’n ifanc hefyd,” meddai Gareth Davies, llefarydd gwasanaethau cyhoeddus y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd.

“Mae ACEau hefyd yn cynyddu’r posibilrwydd bod plant a phobol ifanc yn mynd i ofal, gan amharu ar eu canlyniadau posib mewn bywyd o gymharu â’r rhai sydd wedi’u magu mewn teuluoedd sefydlog.

“Gallai cwtogi nifer yr ACEau leihau nifer y blant mewn gofal, lleihau’r defnydd o sylweddau anghyfreithlon, a lleihau’r risg o drais a mynd i’r carchar.

“Dyw llywodraethau Llafur olynol, er bod ganddyn nhw nifer o raglenni gydag ewyllys da i gefnogi ymyrraeth gynnar ac atal plant rhag mynd i ofal, heb gael effaith sylweddol wrth gwtogi nifer achosion ACEau na lleihau nifer y plant mewn gofal, er eu bod nhw’n dweud bod y ddau beth hynny’n flaenoriaeth.

“Felly, mae hi’n siomedig nad yw Llafur yn gallu wynebu mabwysiadu’r targed, a dw i’n falch o ddadlau o blaid uchelgais Ymddiriedolaeth WAVE i gwtogi ACEau o 70% erbyn diwedd y degawd.”