Mae Mark Drakeford wedi cael ei wahodd i ymddiheuro wrth drigolion sy’n ofni tirlithriadau o ganlyniad i domenni glo.
Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog, dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi gwneud diogelwch tomenni glo yn flaenoriaeth.
Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod yna gyfrifoldeb moesol a chyfreithiol ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn Llundain i glirio’r llanast a greodd lewyrch economaidd yr Ymerodraeth Brydeinig.
Mae’n debyg y bydd costau clirio’r glo yn amrywio o £500m i £600m dros y 15 mlynedd nesaf.
Fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig gyhuddo Mark Drakeford o “chwerthin” wrth ymateb i gwestiwn ganddo ar y pwnc.
‘Gwrthod darparu’r un geiniog’
Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford mai’r “gwir amdani o ran diogelwch tomenni glo yng Nghymru yw hyn, sef nad yw’r safonau a oedd yn ofynnol yn yr 1980au a’r 1990au bellach yn addas ar gyfer cyfnod o newid hinsawdd”.
“Rydym wedi gweld dros y ddau aeaf diwethaf effaith digwyddiadau tywydd eithafol ar gymunedau’r cymoedd,” meddai.
“Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyfrifoldeb i unioni’r etifeddiaeth yr ydym wedi’i gweld yma yng Nghymru, ac maen nhw wedi gwrthod darparu’r un geiniog. Dyna wirionedd y mater.
“Ni fydd unrhyw nonsens am arian maes awyr yn cael ei wario ar waith adfer y domen lo yn cuddio’r ffaith fod y cyfrifoldeb am unioni’r etifeddiaeth a welwn yng Nghymru gyda’r holl hanes sydd gennym yma yng Nghymru, gyda’r holl ofn y mae hynny’n ei greu yng nghymunedau’r Cymoedd.
“Mae’n dibynnu ar Lywodraeth Geidwadol yn y Deyrnas Unedig, a’r ateb maen nhw’n ei roi yw, ‘Nid oes ceiniog i helpu’.
Y llynedd, roedd tirlithriad yn Tylorstown yng Nghwm Rhondda yn dilyn Storm Dennis, a wnaeth ysgogi Llywodraeth Cymru i greu cofnod o’r holl domenni glo segur yng Nghymru.
Nododd yr astudiaeth fod 2,456 ohonyn nhw i gyd, gyda 327 yn dal i fod mewn categori risg uchel.
Dyma oedd y sesiwn hybrid gyntaf yn y siambr yn 2022, gyda rhai aelodau’n cyfrannu o bell a rhai ar lawr y Siambr, yn dilyn pryderon am yr amrywiolyn Omicron.
Costau byw
Mae’r taliad un tro dan y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn cael ei ddyblu o £100 i £200 i helpu aelwydydd cymwys â chostau a biliau ynni cynyddol, meddai Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru.
‘Fforest lle bu ffermydd’
Cafodd geiriau’r bardd Gwenallt eu clywed ar lawr y Siambr, wrth i Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, ddefnyddio rhan o’r gerdd ‘Rhydcymerau’ i ddwyn perswâd ar Mark Drakeford i gytuno i gais am Farchnad Credyd carbon yng Nghymru.
Byddai hyn yn darganfod i ba raddau y mae buddsoddwyr o’r tu allan i Gymru yn prynu tir fferm i blannu coed i wneud yn iawn am eu hôl troed carbon.
“Unwaith y bydd y tir amaethyddol wedi’i golli, ni fydd byth yn dod yn ôl” meddai.
“Unwaith y bydd y credydau carbon, sydd mor hanfodol yn ein taith ein hunain i sero net, yn cael eu tynnu o Gymru, fyddan nhw byth yn dychwelyd.
“A wnewch chi archwilio ar fyrder y cynnig, unwaith eto mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru o 2014, am farchnad credyd carbon i Gymru, a fyddai’n golygu mai dim ond endidau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a allai ddefnyddio credydau a gynhyrchir gan goedwigaeth Cymru?”
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp arbenigol sydd wedi rhoi “cyfres o gynigion i’r Llywodraeth”.
Dywedodd y Prif Weinidog fod y rhain yn cynnwys “lleihau cyfraddau taliadau yn y cynllun creu coetir newydd i’r rhai nad ydyn nhw’n ffermwyr.”
Daw hyn wrth i adroddiadau ymddangos yn y wasg am gwmnïau mawr yn Llundain yn galw ar ffermwyr i brynu ffermydd er mwyn gwneud yn iawn am eu hôl troed carbon.
Dydd Gŵyl Dewi
Gwnaeth y Prif Weinidog hefyd ymateb i gwestiwn gan Rhys ab Owen, oedd yn gofyn am gynlluniau oedd ar y gweill i wneud Dydd Gŵyl Ddewi yn Ŵyl Banc.
“Wel, Llywydd, beth dwi eisiau ei weld yw’r cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo i’r Senedd i ni fan hyn gael y cyfle i ddeddfu i gael Dydd Gŵyl Dewi fel gŵyl y banc,” meddai Mark Drakeford.
Daw hyn ar ôl i Gyngor Gwynedd a Chyngor Tref Aberystwyth ganiatáu diwrnod i ffwrdd i weithwyr ar Fawrth 1.