Mae cyfreithiwr ac aelod o Gymdeithas yr Iaith wedi dweud wrth golwg360 fod y syniad ar gyfer cynllun newydd sydd ganddyn nhw i amddiffyn enwau llefydd Cymraeg ar eiddo wedi deillio o drydariad gan y bardd Siân Northey.
Yn ddiweddar, mae sawl achos wedi dod i’r amlwg o enwau llefydd ac enwau eiddo yn cael eu newid o’u henwau gwreiddiol yn yr iaith, gan gynnwys tŷ yn cael ei enwi’n ‘Hakuna Matata’ yn Sir Gâr ar ôl cân o’r ffilm The Lion King.
Mae llawer o ymgyrchwyr wedi mynegi eu dicter gydag achosion o’r fath, gyda phryderon y gallai hanes a threftadaeth sy’n bwysig i’r Gymraeg gael eu colli.
Bwriad y cynllun Diogelwn ydi cyflwyno cyfamodau i berchnogion tai yng Nghymru sydd ag enwau Cymraeg, er mwyn atal unrhyw un sy’n prynu neu etifeddu’r tŷ yn y dyfodol rhag newid ei enw.
Cymdeithas yr Iaith sy’n gweithredu’r cynllun arloesol, ar ôl i’r cyfreithiwr Simon Chandler godi’r syniad gyda nhw.
Cefndir Diogelwn
“Daeth y syniad o drydariad ym mis Mehefin 2020 gan y bardd a’r awdur Siân Northey,” meddai Simon Chandler golwg360, ac yntau’n dal ynghlwm wrth gynllun Diogelwn.
“Roedd hi ar fin gwerthu ei thŷ, ac roedd hi’n gofyn a oedd gan unrhyw un syniad am sut i ddiogelu’r enw ar ôl iddi symud.
“Dw i wedi arbenigo ym maes trawsgludo masnachol, felly roedd gen i syniad am sut i wneud hynny, er nad oeddwn i erioed wedi ystyried defnyddio’r dull cyfreithiol amlwg, sef cyfyngiadau cofrestredig, yn y cyd-destun hwn o’r blaen.”
Cyfamodau
Y syniad yw fod gan unrhyw un yng Nghymru sy’n bwriadu gwerthu tŷ sydd ag enw Cymraeg yr hawl i ofyn i’w cyfreithiwr neu drawsgludwr gynnwys cymal penodol yn y cytundeb gwerthu.
Mae’r cymal hwn yn atal prynwyr a’u holynwyr rhag newid enw’r tŷ yn y dyfodol.
Yn ogystal, mae modd i unrhyw un nad yw’n bwriadu gwerthu tŷ lofnodi cytundeb penodol, sy’n atal prynwyr neu gymyndderbynwyr yn ewyllys yr unigolyn rhag newid enw’r tŷ chwaith.
Penderfynodd fynd ymlaen gyda’r syniad gyda chymorth Cymdeithas yr Iaith, sy’n gweithredu fel ceidwaid i’r cyfamodau.
“Nhw oedd y dewis amlwg,” meddai.
“Dw i’n aelod [o’r Gymdeithas], a wastad wedi edmygu’r hyn mae’r mudiad yn ei wneud.”
Daeth cynllun Diogelwn yn fyw fis Chwefror y llynedd, ar ôl proses drylwyr o lunio’r amodau a gwirio’r gyfraith.
‘Hakuna Matata’
Mae achos wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar o dŷ yn Sir Gaerfyrddin yn cael yr enw ‘Hakuna Matata’.
Yn ddiweddarach, mae’r Arolwg Ordans wedi dechrau cofnodi’r enw hwnnw ar eu mapiau.
Mae’n debyg fod yr achos yn mynd yn ôl i 1997, pan wnaeth perchennog presennol tir Banc Cornicyll ger Gorslas brynu ac adeiladu tŷ newydd yno a rhoi’r enw anarferol arno.
Mae’n debyg y byddai cyfamod sy’n rhan o un o ddogfennau safonol Diogelwn wedi atal hynny rhag digwydd.
“Os byddai yna annedd arall [yn cael ei godi ar y tir], mae cyfamod i beidio â rhoi unrhyw enw i’r tŷ nad yw’n Gymraeg ac nad yw â chysylltiad â’r ardal leol,” meddai Simon Chandler.
Mae gan y cynllun elfen addysgiadol hefyd i geisio codi ymwybyddiaeth o ystyr enwau llefydd Cymraeg i bobol o’r tu allan i Gymru sy’n prynu tai yma.
‘Personoliaeth y wlad yn diflannu’
“Bob tro rydych chi’n colli hanes a threftadaeth, mae’n newid tirwedd ieithyddol a phersonoliaeth y wlad,” meddai Simon Chandler wedyn.
“Fesul dipyn, mae personoliaeth y wlad yn diflannu, sy’n drychinebus.
“Byddai’n ddelfrydol pe bai Llywodraeth Cymru yn deddfu yn y maes.
“Un gobaith sydd gennym ni yw y bydd y llywodraeth yn sylwi ar yr hyn y mae’r Gymdeithas yn ei wneud efo Diogelwn a phenderfynu deddfu gan ddilyn yr un egwyddorion.”