Bydd cyllideb Cymru ar ei cholled o bron i £1bn erbyn 2024 “oherwydd methiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gadw at eu haddewid na fyddai Cymru’n colli’r ‘un geiniog’ ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd”, yn ôl Ysgrifennydd Economi Cymru.

Mae Vaughan Gething yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i barchu datganoli a rhoi’r £1bn yn ôl i Gymru.

Dywed fod y “drifft a’r anallu i benderfynu, sydd wedi nodweddu cynlluniau Codi’r Gwastad San Steffan”, yn costio swyddi a phrosiectau datblygu yng Nghymru.

Mae disgwyl i Bapur Gwyn “Codi’r Gwastad” Llywodraeth y Deyrnas Unedig gael ei gyhoeddi fory (dydd Mercher, Chwefror 2).

‘Gostwng y gwastad’

Erbyn hyn, mae hi’n amlwg bod gan “Gymru lai o lais a hynny dros lai o arian”, yn ôl Vaughan Gething.

“Mae’r drifft yn Whitehall a’r anallu yno i wneud penderfyniadau yn golygu bod ein cymunedau lleiaf cefnog yn colli swyddi a phrosiectau ar yr adeg waethaf bosibl.

“Cadarnhaodd Adolygiad Gwariant y llynedd fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi torri ei haddewid i ad-dalu’r holl arian Ewropeaidd y byddai Cymru wedi’i gael ac nid oes unrhyw arwydd y bydd y Papur Gwyn yn newid hyn.

“Pe bai Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadw ei haddewid, byddai Cymru wedi derbyn £375m o arian newydd bob blwyddyn ers mis Ionawr 2021.

“Yn hytrach, dim ond £46.8m oedd cyfran Cymru o’r cronfeydd ôl-Undeb Ewropeaidd yn 2021/22.

“Mae ein dadansoddiad ein hunain yn dangos y bydd cyllideb Cymru £1bn ar ei cholled erbyn 2024.

“Nid ‘codi’r gwastad’ yw hyn, ond ‘gostwng y gwastad’.”

‘Penderfyniadau anodd’

Yn yr Adolygiad Gwariant y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig gadarnhau y byddai’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, fyddai’n disodli cyllid yr Undeb Ewropeaidd ymhen amser, yn werth £1.5bn y flwyddyn i’r Deyrnas Unedig gyfan.

Ar gyfer 2022/23, dim ond £400m fydd gwerth y gronfa i’r Deyrnas Unedig. Pe bai Cymru wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, byddai’r wlad wedi derbyn o leiaf £375m y flwyddyn.

Yn 2021/22, £46.8m ddaeth i Gymru drwy beilot y gronfa honno.

Mae dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r ffordd mae Llywodraeth San Steffan yn darparu cyllid yn dangos y bydd Cymru’n colli tua £750m dros dair blynedd (2021/22 i 2023/24).

Yn ogystal â’r golled o £242m yng nghyllideb ffermwyr, ers i Lywodraeth San Steffan ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros arian yn lle’r Undeb Ewropeaidd a hyd at diwedd 2023/24, bydd Cymru ar ei cholled o bron i £1bn y byddai hi wedi’i chael fel arall, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae’r twll a gafodd ei adael yn sgil colli arian yr Undeb Ewropeaidd wedi “ffrwyno” Llywodraeth Cymru rhag gallu cefnogi cynigion cadarn fyddai’n atgyfnerthu cryfderau’r economi, yn ôl Vaughan Gething.

“Byddai unrhyw gynllun teilwng wedi cael ei gyhoeddi y llynedd,” meddai.

“Byddai blaenoriaethau clir wedi bod ynddo dros greu economïau lleol cryfach i ailfantoli economi’r Deyrnas Unedig.

“Yn lle hynny, mae gennym botiau ariannu digyswllt, wedi’u creu ar wahân yn Whitehall.

“Rydym eisoes wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd i ddiogelu’n blaenoriaethau, fel ein hymrwymiad i ddarparu 125,000 o brentisiaethau dros gyfnod y Senedd hon.

“Mae Deddf anghyfansoddiadol y Farchnad Fewnol yn cael ei defnyddio i sathru ar ddatganoli democrataidd drwy ein rhwystro rhag gwneud penderfyniadau am Gymru yng Nghymru.

“Mae fy neges i Weinidogion y Deyrnas Unedig yn glir – parchwch ddatganoli a rhowch yr £1bn a addawyd i Gymru yn ôl i Gymru.

“Nid yw’n rhy hwyr i’r Ysgrifennydd Gwladol, Michael Gove, gynnig ffordd ymlaen sy’n seiliedig ar wneud penderfyniadau ar y cyd.

“Nid yw’n rhy hwyr am gyfaddawd didwyll.”