Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi, wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o “wadu buddsoddiad hanfodol i Gymru”.

Dywed fod oedi parhaus o ran darparu arian newydd gan yr Undeb Ewropeaidd i Gymru yn mynd i arwain at golli cyfleoedd gwaith i Gymru a’i bod yn tanseilio prosiectau.

Wrth siarad yn y Senedd, ailadroddodd sut y mae’r cronfeydd Adfywio Cymunedol a Chodi’r Gwastad ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd – sydd wedi eithrio Llywodraeth Cymru ac sy’n cael eu rheoli gan Weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig – yn gwrthod rhoi’r buddsoddiad hanfodol sydd ei angen ar Gymru.

Ychwanegodd fod hyn yn gwaethygu’r sefyllfa i Gymru.

Mae’r cynllun peilot ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin, o’r enw y Gronfa Adfywio Cymunedol, yn werth £220m ledled y Deyrnas Unedig yn y flwyddyn ariannol hon, gyda disgwyl i Gymru dderbyn tua £10m.

Mae hynny tua £450,000 fesul awdurdod lleol.

Pe bai’r Deyrnas Unedig wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, byddai Cymru wedi cael o leiaf £375m o gyllid strwythurol newydd ar gyfartaledd gan yr Undeb Ewropeaidd bob blwyddyn am saith mlynedd o fis Ionawr eleni, a byddai hyn ar ben cyllid o raglenni presennol yr Undeb Ewropeaidd.

O dan y Gronfa Codi’r Gwastad sy’n werth £4.8bn ledled y Deyrnas Unedig, cafodd cyfanswm o £800m ei neilltuo ar gyfer yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon dros bedair blynedd, ac mae disgwyl i Gymru dderbyn tua £30m eleni.

Mae hynny tua £1.3m i bob awdurdod lleol yng Nghymru, gan gadarnhau nad oes sylwedd i frand Codi’r Gwastad.

‘Annerbyniol’

“Nid yw dull Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ariannu ar ôl Brexit, o dan unrhyw amgylchiadau, yn cynrychioli ffordd dderbyniol o weithio mewn partneriaeth, heb sôn am gysylltiadau rhynglywodraethol effeithiol,” meddai Vaughan Gething.

“Mae hyn yn siomedig iawn o ystyried ymrwymiadau Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn dilyn yr uwchgynhadledd ym mis Mehefin ynghylch cysylltiadau rhynglywodraethol mwy effeithiol ledled y Deyrnas Unedig a pharodrwydd Prif Weinidog Cymru i gydweithio.

“Dylai Gweinidogion y Deyrnas Unedig nodi’r sefyllfa fwyafrifol glir yn y Senedd hon.

“Yn wir, cynigiwyd prosbectws i bobl Cymru a oedd yn cymeradwyo cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn etholiadau’r Senedd eleni ond ni chafodd hynny gefnogaeth y cyhoedd yng Nghymru.

“Mae mwyafrif clir ar gyfer dull gweithredu a wnaed yng Nghymru sy’n parchu datganoli.

“Dim ond chwech mis sy’n weddill o’r flwyddyn ariannol hon ac nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi unrhyw geisiadau llwyddiannus am y cronfeydd Adfywio Cymunedol a Chodi’r Gwastad.

“Mae hyn er gwaethaf ei haddewid i gyhoeddi ceisiadau ym mis Gorffennaf.

“Mae partneriaid yn iawn i ofyn sut y mae prosiectau i fod i gyflawni erbyn mis Mawrth yn ôl y gofyn.

“Mae’r oedi hwn yn gadael cymunedau yn y tywyllwch ac yn peryglu’n wael yr hyn y gellir ei gyflawni ar gyfer pobl a busnesau yng Nghymru.”

“Gweithio fel tîm”

“Mae gennym bryderon gwirioneddol hefyd am fygythiad cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar raddfa cynlluniau a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, gan gynnwys Busnes Cymru, y Banc Datblygu a Phrentisiaethau,” meddai wedyn.

“Mae ein Fframwaith sy’n seiliedig ar gonsensws ar gyfer buddsoddi arian newydd yr Undeb Ewropeaidd yn adeiladu ar flynyddoedd o ymgysylltu â phartneriaid, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau clir i Gymru.

“Dyma sut mae gweithio fel Tîm Cymru yn edrych.

” Rwyf wedi ei gwneud yn glir i’r Ysgrifennydd Gwladol newydd Michael Gove ein bod yn agored i drafodaethau ystyrlon ar y ffordd orau o gydweithio i sicrhau bod yr arian hwn yn llwyddiant i Gymru.

“Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyfle i ddangos ei bod wedi gwrando ac i ddod â’r oes sy’n dweud wrth Gymru ‘Byddwch yn cael yr hyn a roddir i chi’ – i ben.”