Fe fydd milwyr yn dechrau cael hyfforddiant i helpu i gludo tanwydd wrth i Boris Johnson ddweud ei fod yn paratoi i ddelio gyda phroblemau posib “hyd at y Nadolig a thu hwnt.”
Yn ôl y Prif Weinidog mae’r sefyllfa mewn gorsafoedd petrol yn “sefydlogi” wrth iddi annog modurwyr i fyn o gwmpas eu pethau yn y ffordd arferol.
Mae penderfyniad i gael 150 o filwyr wrth gefn i yrru tanceri tanwydd wedi cael ei gymeradwyo’n ffurfiol, gan olygu y byddan nhw’n gallu dechrau cael hyfforddiant rhag ofn bod eu hangen.
Mae 150 o filwyr ychwanegol ar gael i helpu’r gyrwyr tanceri fel rhan o’r ymdrech filwrol.
Fe allai’r milwyr gael eu hanfon i helpu “yn y dyddiau nesaf” os oes angen, meddai ffynhonnell yn y Llywodraeth.
Mae swyddogion o’r adran fusnes a’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gweithio gyda’r diwydiant tanwydd i benderfynu lle fyddai orau i’r gyrwyr gael eu hanfon i roi cymorth.
Ddoe, (28 Medi) fe fu Boris Johnson yn ceisio lleddfu pryderon ynglŷn â phroblemau’r gadwyn gyflenwi sy’n effeithio busnesau ar draws y wlad, wrth i giwiau hir barhau mewn gorsafoedd petrol.
Dywedodd bod y sefyllfa’n “dechrau gwella” gan ychwanegu: “Beth ry’n ni eisiau gwneud yw sicrhau bod y paratoadau angenrheidiol i gyd yn barod ar gyfer y Nadolig a thu hwnt, nid cyflenwadau’r gorsafoedd petrol yn unig ond bob rhan o’r gadwyn gyflenwi.”
Mae arweinydd y Blaid Lafur Syr Keir Starmer wedi cyhuddo’r Llywodraeth o achosi “anhrefn” yn y wlad drwy fethu a chynllunio ar gyfer yr argyfwng tanwydd, gan fynd o “un argyfwng i’r llall.”
Mae Boris Johnson wedi gwrthod galwadau i roi blaenoriaeth i weithwyr iechyd a gweithwyr eraill i gael mynediad at danwydd gan awgrymu nad oedd yn angenrheidiol gan fod y sefyllfa yn sefydlogi.