Mae un sy’n rhedeg cwmni cludo nwyddau trwm yng Ngheredigion wedi mynegi amheuaeth am gynllun diweddaraf Llywodraeth Prydain i groesawu mwy o yrwyr lorïau o dramor.
O dan y cynllun, bydd 5,000 yn rhagor o yrwyr yn cael fisas am gyfnod o dri mis, yn ogystal â 5,500 o weithwyr yn y sector cig dofednod.
Dywed Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, eu bod nhw’n galw am y gweithwyr ychwanegol er mwyn lleihau’r pwysau sydd ar gadwyni cyflenwi hyd at y Nadolig.
Ond mae nifer o bobol yn y diwydiant yn credu na fydd hyn yn ddigon, gan gynnwys Brian Jenkins, un o gyfarwyddwyr cwmni D Jenkins & Son o Felinfach yng Ngheredigion.
Dydy e ddim yn meddwl y bydd rhoi fisas dros dro yn lliniaru’r effeithiau ar y diwydiant cludo nwyddau yn y tymor hir.
“Dw i’n gweld e’n gwneud fawr ddim gwahaniaeth,” meddai Brian Jenkins wrth golwg360.
“Yn un peth, fydd hyd yn oed y rhai sydd eisiau dod ddim yn gallu dod am sbel beth bynnag.
“Dydw i chwaith ddim yn credu fod y wlad hon yr un mor ddeniadol i yrwyr tramor ag oedd hi.
“Dw i ar ddeall eu bod nhw’n mynd am y dwyrain, ac i lefydd fel Lithwania maen nhw’n mynd i yrru nawr.”
‘Dim angen panig’
Wrth drafod y prinder diweddar mewn tanwydd, mae’n credu ei bod hi’n sefyllfa fwy cymhleth wrth ddod â gyrwyr tanceri petrol o dramor.
“Petaech chi yn dod â gyrwyr i mewn o Ewrop i yrru tanceri petrol, dydy dim ond cael trwydded HGV ddim yn ddigon da, ac mae yna hyfforddiant ofnadwy yn mynd i mewn i’r swydd hynny,” meddai.
“A gan fod y cynllun ond am dri mis, dw i ddim yn gweld nhw’n gallu cwblhau’r hyfforddiant hynny cyn y Nadolig.
“Hyd yn oed os fydd pentwr yn dod draw dros y tri mis nesaf, rydyn ni’n mynd i gael cyfnod eithaf hwylus ond peth nesaf, fyddwn ni’n ôl yn sgwâr rhif un.
“Does dim angen y panig hyn nawr, petai ddim cymaint o sylw i’r ffaith bod gyrwyr yn brin, fyddai hynny heb ddigwydd.”
Datrysiadau eraill
Mae Brian Jenkins yn credu bod angen i Lywodraeth Prydain asesu ffyrdd eraill er mwyn lleihau’r prinder gyrwyr yn y tymor hir.
“Mae’n broblem anferth, does dim amheuaeth am hynny,” meddai.
“Gallan nhw wneud un peth yn weddol rwydd, sef gwneud newidiadau i’r cymhwyster CPC (Certificate of Professional Competence).
“Mae hwnnw’n bach o jôc a dweud y gwir, achos mae gyrwyr yn gorfod mynd am un diwrnod o hyfforddiant bob blwyddyn, ac mae rhai gyrwyr yn gweld hynny fel ychydig bach o sarhad.
“Mae’r Road Haulage Association yn barnu bod o leiaf 20,000 o bobol ma’s yna gyda thrwydded yrru gymwys, ond sydd heb drafferthu gwneud yr hyfforddiant CPC – a jyst wedi mynd i weithio mewn meysydd eraill neu ymddeol yn gynnar.
“Bydden i yn cytuno pe baen nhw’n hepgor hynny, yn fy marn i, byddai hynny’n dod â miloedd o yrwyr o’r wlad hon yn ôl i mewn i’r farchnad.”