Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi beirniadu cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi fisas am dri mis i yrwyr lorïau.

Wrth iddi ddweud y “dylai gweithwyr hanfodol fod am oes, nid dim ond ar gyfer y Nadolig”, mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd yn galw am ddatganoli’r polisi mewnfudo o ganlyniad i “drychineb” y system fewnfudo ar ôl Brexit.

Yn ôl y cynllun, fe fydd 5,000 o yrwyr lorïau a 5,500 o weithwyr dofednod yn cael fisa i weithio yn y Deyrnas Unedig am hyd at dri mis, ond daw’r cynllun i ben ar Noswyl Nadolig.

Mae Liz Saville Roberts a’i phlaid yn galw am ychwanegu gyrwyr lorïau at y Rhestr Galwedigaethau â Phrinder er mwyn hwyluso’r broses i gwmnïau sydd am gyflogi gyrwyr o dramor yn ystod yr argyfwng.

Mae hi’n pwysleisio na fydd “potsian ar ymylon system sy’n sylfaenol heb resymeg” yn ddigonol, gan ddweud bod rhaid datganoli’r pwerau i Gymru er mwyn datrys y sefyllfa.

Byddai system fewnfudo ffederal yn galluogi Cymru i osod ei chwotâu ei hun i ddiwallu ei hanghenion ei hun, meddai, gan alw am sefydlu Gwasanaeth Ymgynghori ar Fewnfudo i Gymru i “lenwi bylchau sgiliau a phrinder sydd wedi’u hachosi gan system fewnfudo ôl-Brexit drychinebus y Torïaid”.

‘Datrys ein llanast’

“Mae argyfwng y gadwyn gyflenwi sy’n gwaethygu yn datgelu trychineb system fewnfudo ôl-Brexit y Torïaid,” meddai Liz Saville Roberts.

“Arweiniodd blynyddoedd o rethreg gwrth-fewnfudwyr gwenwynig at un o’r systemau mewnfudo mwyaf cyfyng yn Ewrop, sy’n golygu y bydd angen llawer mwy arni na chwta dri mis o fisa i ddarbwyllo gweithwyr i ddod yma i ddatrys ein llanast.

“Dylai gweithwyr hanfodol fod am oes, nid dim ond ar gyfer y Nadolig.

“Mae hi’n glir iawn fod rhaid adolygu’r Rhestr Galwedigaethau â Phrinder i gynnwys gyrwyr lorïau HGV.

“Ond fydd potsian ar ymylon system sy’n sylfaenol heb resymeg ddim yn ddigon yn y tymor hir.

“Yn ogystal â gwella cyflogau ac amodau gwaith gweithwyr hanfodol, mae Plaid Cymru ers tro yn galw am system fisas i Gymru i roi hwb i’n gwasanaethau cyhoeddus megis y Gwasanaeth Iechyd a chefnogi’r sector preifat wrth ddenu gweithwyr â sgiliau o bob cwr o’r byd.

“Mae eu hangen yn fwy nag erioed o’r blaen.

“Byddai system fewnfudo ffederal yn galluogi Cymru i osod ein cwotâu mewnfudo ein hunain yn ôl ein hanghenion ein hunain.

“Drwy sefydlu Gwasanaeth Ymgynghori ar Fewnfudo i Gymru, gallem lenwi’r bylchau sgiliau a’r prinder sydd wedi’u hachosi gan system fewnfudo ôl-Brexit y Torïaid a sicrhau bod Cymru’n dal i fod yn genedl groesawgar i bobol sy’n dymuno cyfrannu at y gymdeithas Gymreig.”