Mae rheolwr garej yng Nghaernarfon yn dweud bod “pobol wedi prynu a phrynu, a hynny sydd wedi creu’r broblem” petrol.
Mae rhai o orsafoedd tanwydd ledled Cymru wedi gweld cynnydd mewn cwsmeriaid dros y penwythnos, ac mae hynny wedi achosi prinder mewn petrol.
Daw hyn ar ôl i adroddiadau fod prinder gyrwyr lorïau wedi achosi bylchau yng nghyflenwadau petrol sawl cwmni.
Fe gafodd pobol eu hannog i beidio â phrynu petrol mewn panig yn dilyn yr adroddiadau hynny, ond fe wnaeth llawer anwybyddu’r galwad hwnnw.
Dywedodd y Gymdeithas Manwerthwyr Petrol fod hyd at ddau draean o’u haelodau wedi rhedeg allan o danwydd.
Mae Llywodraeth Prydain wedi cyflwyno cynllun i sicrhau y bydd 5,000 o yrwyr lorïau o dramor yn cael fisas dros dro er mwyn lleihau’r pwysau ar y gadwyn gyflenwi.
Y ffynnon yn sych
Dywedodd un o reolwyr gorsaf betrol Gwalia yng Nghaeathro, ger Caernarfon, wrth golwg360 eu bod nhw wedi ei chael hi’n anodd dros y penwythnos.
“Mae hi wedi bod lot prysurach na beth ddylsai hi fod,” meddai.
“Does dim cweit ciws i fyny at y gylchfan, ond mae yna dipyn o giws yma.
“Wnaethon ni redeg allan o betrol ddydd Sadwrn, ond erbyn rŵan, rydan ni wedi cael mwy.”
Prynu mewn panig
Roedd yn rhaid i rai o garejys BP ac Esso gau ddiwedd yr wythnos diwethaf oherwydd bod prinder gyrwyr lorïau i gyflenwi petrol, ond mae’n debyg nad yw hynny wedi effeithio ar bawb.
“Mae yna brinder gyrwyr wedi bod ers tipyn, ac rydyn ni wedi bod yn iawn,” meddai un o reolwyr garej Gwalia wrth golwg360.
“Y penwythnos hwn, mae pobol wedi prynu a phrynu, a hynny sydd wedi creu’r broblem.
“Unwaith fydd pobol yn calmio lawr, fyddwn ni’n iawn.
“Tan hynny, mae jyst yn dibynnu pryd fydd y tancer nesa’n cyrraedd.
“Dw i’n meddwl y byddwn ni nôl i normal erbyn canol wythnos yma.
“Rywbryd, bydd digon o bobol wedi llenwi eu ceir nhw, a bydd hynny gobeithio’n rhoi amser i ni ddal i fyny.”