Mae pobl yn cael eu hannog i beidio â phrynu petrol a nwyddau mewn panig wrth i brinder gyrwyr lorïau effeithio ar gyflenwadau.
Mae gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn wynebu pwysau newydd i lacio rheolau mewnfudo fel mesur brys i ddenu gyrwyr lorïau yn sgil rhybuddion bod angen 100,000 gyrrwr ychwanegol ar draws y diwydiant.
Yn ôl BP mae “llond llaw” o’u gorsafoedd petrol ar gau oherwydd prinder petrol sydd ar gael iddyn nhw, tra bod perchennog Esso, ExxonMobil, wedi dweud bod “nifer fach” o’u gorsafoedd petrol Tesco Alliance wedi’u heffeithio.
Awgrymodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Grant Shapps, na fyddai ychwanegu gyrwyr lorïau at y rhestr o weithwyr crefftus ar gyfer mewnfudo’n datrys y broblem, er mynnodd nad yw’r un opsiwn wedi cael ei ddiystyru.
Mae’r materion ynghylch petrol, ynghyd â phroblemau sy’n wynebu’r diwydiant bwyd a chynnydd mewn prisiau nwy, wedi arwain at rybuddion bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn wynebu “gaeaf o anfodlonrwydd”.
Mae cyfuniad o ffactorau, gan gynnwys Brexit wedi arwain at golli gyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd, y pandemig yn atal profion gyrru, a phroblemau systemig yn y diwydiant ynghlwm â thal ac amodau wedi arwain at y prinder gyrwyr lorïau.
“Gwaethygu’n raddol”
Mae Rod McKenzie o’r Gymdeithas Cludo ar y Ffordd wedi cyhuddo gweinidogion o ganiatáu i’r sefyllfa “waethygu’n raddol” yn y misoedd diwethaf.
“Mae gennym ni brinder o 100,000 (gyrrwr),” meddai Rod McKenzie wrth Newsnight.
“Pan rydych chi’n meddwl bod popeth rydyn ni’n ei gael ym Mhrydain yn cyrraedd ar gefn lori – boed hynny’n betrol neu fwyd neu ddillad neu beth bynnag – ar ryw bwynt, os nad oes gyrwyr i yrru’r lorïau, dydi’r lorïau ddim yn symud a dydyn ni ddim yn cael ein stwff.
“Dw i ddim yn meddwl ein bod ni’n sôn am ddim bwyd na phetrol o gwbl, na dim byd felly, ni ddylai pobol brynu bwyd na phetrol na dim byd arall mewn panig, nid dyna yw hyn.
“Mae hyn am ymwneud a stoc, am brinder, am sut mae’r gadwyn gyflenwi arferol wedi cael ei tharfu.”
Mae Richard Walker, rheolwr gweithredol siopau Iceland, wedi dweud bod ganddyn nhw brinder o tua 100 gyrrwr, a chytunodd â Rod McKenzie bod angen newid dros dro i’r rheolau mewnfudo.
“Mae’r datrysiad – hyd yn oed os ydi hi’n un dros dro – yn un syml iawn, iawn. Rhowch yrwyr HGV ar y rhestr o weithwyr crefftus.”
“Problem fyd-eang”
Wrth ymddangos gyda Richard Walker ar Questiontime, dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Grant Shapps, “os mai dyna’r datrysiad yna dw i’n siŵr y byddem ni’n symud yn sydyn i wneud hynny a dw i ddim yn diystyru dim byd”.
Ond “mae hon yn broblem fyd-eang, mae’n ganlyniad uniongyrchol i’r coronafeirws”.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig “nad oes prinder petrol yn y Deyrnas Unedig, a dylai pobol barhau i brynu petrol yn ol yr arfer”.
Mae un o gyfarwyddwyr gweithredol Cymdeithas Manwerthwyr Petrol, Gordon Balmer, wedi awgrymu bod gyrwyr yn cadw digon o betrol yn y tanc i gyrraedd gorsaf betrol wahanol yn yr “achos prin” nad oes petrol ar gael yn yr un gyntaf.
Wrth siarad â Good Morning Britain fore heddiw (24 Medi), cynigiodd Gordon Balmer y dylid cyflymu hyfforddiant ar gyfer gweithwyr a dywedodd y gallai cyn-weithwyr y fyddin gael eu galw i lenwi swyddi gwag fel datrysiadau posib eraill.