Mae cynghorwyr Ceredigion wedi cytuno’n unfrydol i alw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaethau i effeithiau lleol wrth ddeddfu ar blannu ar diroedd.

Dylai unrhyw blannu ar dir er mwyn ennill credydau carbon gael ei wneud er budd Cymru a chymunedau lleol, meddai Cyngor Sir Ceredigion.

Mae credyd carbon yn drwydded sy’n caniatáu i fudiad neu wlad gynhyrchu hyn a hyn o allyriadau carbon, a gellir ei gyfnewid os nad yw’r lwfans llawn yn cael ei ddefnyddio.

Cafodd y cynnig ei gyflwyno gan y Cynghorydd Ifan Davies, sy’n dweud bod “argyfwng yn wynebu cefn gwlad ar hyn o bryd lle mae cwmnïau mawr yn prynu ffermydd lleol er mwyn plannu a manteisio ar gredydau carbon”.

Bwriad yr alwad gan y cyngor yw sicrhau na all cwmnïau gymryd mantais o ardaloedd gwledig ac effeithio ar gymunedau, y Gymraeg a’r diwylliant Cymreig.

Mae’r cyngor yn cynnig sicrhau bod unrhyw gymhorthdal drwy gynlluniau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rheoli carbon yn cael ei gadw fel credyd carbon er budd economi Cymru a’r bobol.

Byddai hyn yn cynnwys sicrhau bod pob sir yn cael enillion canrannol unrhyw gredyd sy’n cael ei gynhyrchu, a’i fod yn cael ei osod yn erbyn costau gwasanaethau cyhoeddus a nwyddau’r sir honno.

Yn ogystal, mae’r cyngor yn galw am sicrhau na ellir symbylu unrhyw werthiant neu les drydydd parti ar gredyd carbon y tu allan i Gymru, oni bai bod Cymru yn garbon niwtral a bod credyd o 10% dros ben.

“Argyfwng”

“Mae Llywodraeth Cymru am i Gymru fod yn garbon niwtral erbyn 2050, ond mae yna argyfwng yn wynebu cefn gwlad ar hyn o bryd lle mae cwmnïau mawr yn prynu ffermydd lleol er mwyn eu plannu a manteisio ar gredydau carbon i’w gosod yn erbyn eu cynhyrchiant carbon eu hunain,” meddai’r Cynghorydd Ifan Davies o’r Grŵp Annibynnol.

“Fel amaethwr, rwy’n cydnabod yr angen i blannu coed, ond mae’n bwysig bod hyn yn cael ei reoli a bod yna reoliadau ar waith i sicrhau na all cwmnïau gymryd mantais o’n hardaloedd gwledig gan effeithio ar ein cymunedau, ein hiaith a’n diwylliant.”

Dywedodd y Cynghorydd Ray Quant, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, mai’r bwriad yw tynnu sylw Llywodraeth Cymru at y gofidiau yng nghefn gwlad.

“Rwy’n cefnogi’r cynnig arbennig hwn gan y Cynghorydd Ifan Davies,” meddai’r Cynghorydd Ray Quant, hefyd o’r Grŵp Annibynnol.

“Bwriad y cynnig yw tynnu sylw Llywodraeth Cymru at y gofidiau sydd gennym yng nghefn gwlad a’r angen iddynt sicrhau bod eu deddfwriaethau yn gallu amddiffyn cymunedau tebyg i’r rhai sydd gennym yng Ngheredigion a sicrhau na all cwmnïau mawr allanol fanteisio ar draul ein hardaloedd.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Er ein bod yn cydnabod y risg y gallai buddsoddiad arwain at newidiadau mewn perchnogaeth tir, ni fydd yn bosibl cyrraedd ein targedau creu coetir heb sicrhau cyllid gan y sector preifat. Rydym wedi sefydlu grŵp arbenigol i gynghori Gweinidogion ar sut y gellir gwneud hyn mewn ffordd sy’n diogelu hyfywedd ein busnesau amaethyddol a’n cymunedau gwledig. Bydd y grŵp yn darparu cyngor i Weinidogion erbyn diwedd 2021,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.