Mae protestwyr amgylcheddol wedi atal traffig rhag mynd a dod ym mhorhtladd Dofr (Dover) yng Nghaint.
Dywed y mudiad ‘Insulate Britain’ bod dros 40 o’u cefnogwyr wedi ffurfio dau griw i roi stop ar draffig ar ffordd yr A20.
Canlyniad hyn yw bod cerbydau sy’n ceisio mynd ar longau’r porthladd am y cyfandir, wedi bod yn sownd mewn ciwiau.
Yn ddiweddar mae ‘Insulate Britain’, sy’n cael ei ddisgrifio fel chwaer fach i fudiad Gwrthryfel Difodiant, wedi achosi anhrefn ar ffordd fawr yr M25.
Maen nhw hefyd wedi protestio tu allan i bencadlys y Swyddfa Gartref yn San Steffan.
Meddai llefarydd ar ran y mudiad sy’n pwyso am insiwleiddio cartrefi Prydain fel eu bod yn fwy eco-gyfeillgar:
“Rydym wedi blocio Dofr y bore yma i dynnu sylw at y tlodi tanwydd sydd yn lladd pobl yn Nofr ac ar hyd a lled Prydain…
“Mae yn rhaid i ni ddweud y gwir am sefyllfa erchyll newid hinsawdd… mae’r ffaith bod angen newid anferthol ar frys yn gofyn am darfu economaidd.”
Mae awdurdodau’r porthladd wedi cadarnhau bod protestwyr wedi cau’r fyndefa yno, ond yn mynnu fod y porthladd ei hun dal ar agor.