Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu ei gwneud hi’n anghyfreithlon i gaffis, tafarndai a bwytai atal gweithwyr rhag cael tips.

Yn ôl gweinidogion, mae ymchwil yn dangos bod nifer o fusnesau’n ychwanegu ffioedd at filiau cwsmeriaid, ac yna mae rhai’n cadw’r arian iddyn nhw eu hunain.

Daeth y mater i’r amlwg rai blynyddoedd yn ôl pan ddatgelwyd bod rhai cadwyni, megis Cote and Bills, yn ychwanegu ffi gwasanaeth at filiau ac yna’n rhoi’r arian tuag at gyflogau rheolwyr.

Golygai hynny fod gweithwyr yn “mynd â swm cyfyngedig o dips adre”.

Fel arfer, byddai rheolwyr yn cael eu talu’r isafswm cyflog ar y ddealltwriaeth fod arian yn cael ei ychwanegu at eu cyflogau drwy’r system tronc.

Mae’r system tronc yn drefniant talu arbennig sy’n gadael i fusnesau yn y sector lletygarwch a’r sector hamdden rannu tips, gwobrwyon, a ffioedd gwasanaeth yn deg.

Yn ôl y Llywodraeth, byddai eu cynlluniau’n caniatáu i weithwyr weld amserlenni tipio er mwyn sicrhau nad yw hynny’n digwydd.

“Hwb i weithwyr”

Bydd y newid yn rhoi tâl gwell i weithwyr yn y sector lletygarwch, meddai’r Llywodraeth, gan fod gormod o lawer yn dibynnu ar dips i gynyddu eu hincwm.

“Yn anffodus, mae rhai cwmnïau’n dewis rhwystro staff sy’n gweithio’n galed, ac sydd wedi cael tips gan gwsmeriaid yn wobr am wasanaeth da, rhag cael yr arian,” meddai Paul Scully, gweinidog y farchnad lafur.

“Bydd ein cynlluniau’n gwneud hyn yn anghyfreithlon ac yn sicrhau bod tips yn mynd i’r rhai weithiodd amdanyn nhw.

“Bydd hyn yn rhoi hwb i weithwyr mewn tafarndai, caffis a bwytai dros y wlad, ac yn rhoi sicrwydd i gwsmeriaid fod eu harian yn mynd i’r rhai sy’n ei haeddu.”

Yn y gorffennol, roedd rhai cwmnïau’n codi ffi brosesu fechan ar weithwyr am unrhyw dips a gafodd eu gadael drwy gardiau credyd neu debit, ond mae hynny wedi stopio nawr, ar y cyfan.

Byddai’r rheolau newydd yn gwneud hynny’n anghyfreithlon, meddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Fel rhan o’r rheolau newydd, byddai gweithwyr yn gallu gofyn am weld cofnodion tipio’r cwmni, a gallen nhw herio cyflogwyr mewn tribiwnlys os ydyn nhw’n teimlo bod tips wedi cael eu hatal.