Mae Steff Rees, prif leisydd y band Bwca, yn dweud bod y sefyllfa dai yng ngorllewin Cymru yn “dorcalonnus.”

Bydd ei fand yn rhyddhau sengl newydd yr wythnos nesaf sy’n trafod tranc yr iaith Gymraeg yn yr ardal, yn ogystal â’r prisiau tai anferthol sydd ar rhai tai yno.

Mae ‘Pwy Sy’n Byw’n y Parrog?’ yn cael ei ryddhau wythnosau’n unig cyn rali ‘Nid Yw Cymru ar Werth’ ym Mharrog, sef ardal brydferth o bentref Trefdraeth ar arfordir Sir Benfro.

Cafodd y gân roc 1970au ei naws ei recordio yn Stiwdio Sain ychydig cyn y pandemig, wrth iddyn nhw recordio eu halbwm gyntaf, Bwca.

Fe wnaethon nhw ryddhau’r albwm hwnnw yn gynharach eleni, ond doedd dim lle i’r gân ar y record honno.

Ond gyda’r cynnwrf diweddar o gwmpas tai haf, yn ogystal â phrotest ym mhentref Trefdraeth, lle mae ardal y Parrog ger y traeth, penderfynon nhw ei ryddhau fel sengl.

“Roedd y lle jyst yn hollol farw”

Mae Steff Rees, prif leisydd a chyfansoddwr y band, yn esbonio sut wnaeth trip i ogledd Sir Benfro ysgogi’r gân.

“Roedd y gân wedi ei ysgrifennu rhai blynyddoedd ar ôl i fi ymweld â’r Parrog,” meddai wrth golwg360.

“Yng nghanol y gaeaf oedd hi, ac roedd y lle jyst yn hollol dawel.

“Mae yna dai hen gapteiniaid llongau yno, sy’n dai mawr a golygfa bert, ond eto i gyd, roedd y lle jyst yn hollol farw.

“Felly daeth y gân yn eithaf cyflym a dweud y gwir.”

Siarad o brofiad

Mae gan Steff brofiadau ei hunan o fethu prynu tŷ yn ei ardal leol yng Ngheredigion.

“Dw i wedi bod yn edrych ers sawl blwyddyn,” meddai.

“Ond fel mae pawb yn gwybod, mae prisiau tai yn y gorllewin yn eitha’ hurt.

“Mae’r bwlch rhwng y cyflogau a’r math o dai sydd ar gael i bobol sy’n prynu am y tro cynta’ yn dorcalonnus.”

Rali Parrog

Bydd rali wedi ei threfnu gan ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar Werth’ yn cael ei chynnal ym Mharrog ar 23 Hydref am un y prynhawn.

Dywed Steff bod ymgyrchoedd fel hyn yn ddull pwysig i Gymry Cymraeg godi eu lleisiau.

“Mae e’n codi sylw at y broblem yn ein cymunedau ni,” meddai.

“Nid yn unig tai haf, ond jyst y ffaith bod gorllewin Cymru nawr yn cael ei weld fel rhywle ble mae pobol yn gallu gweithio o adref, a mwynhau’r holl bethau sydd gan ardal wledig i’w gynnig.

“Mae e’n ffordd i Gymry cynhenid allu codi llais a dangos ein bod ni’n dal yma ar hyn o bryd.

“Os fydd pobol fel fi’n gorfod ystyried symud bant er mwyn gallu camu ar yr ysgol dai, dyw’r cymunedau Cymraeg hynny ddim yn mynd i barhau am lot hirach.”