Mae cyfrol newydd yn dod â Cynan, Joe Calzaghe, Nigel Farage a Gwynfor Evans ynghyd.
Y llinyn cyswllt rhyngddyn nhw, a degau o wynebau eraill megis Osian Ellis y telynor, Jâms Nicolas y cyn-Archdderwydd, a’r Tywysog Charles, yw’r artist portreadau, David Griffiths.
Mae copïau o’r portreadau yn ymddangos mewn cyfrol newydd sy’n adrodd straeon David Griffiths am yr enwogion sydd wedi eistedd o flaen ei frwsh a’i gynfas.
Mae’r gyfrol, Hunanbortread David Griffiths, yn codi cwr y llen ar fywyd artist hefyd – gan drafod ei addysg, ei fentrau masnachol yn sefydlu orielau, a rhai o’r troeon ffawd a arweiniodd at gomisiynau annisgwyl.
Cafodd David Griffiths ei fagu ym Mhwllheli, wedi i fomiau’r Ail Ryfel Byd yrru’r teulu yno o lannau Merswy.
“Rhannu atgofion”
Wrth weld y gyfrol yn cael ei chyhoeddi, dywedodd David Griffiths bod y “llyfr wedi bod yn llwyfan gwerthfawr i mi rannu atgofion personol arno”.
Un o’i gomisiynau cynharaf oedd creu portread o Cynan, y bardd a’r dramodydd enwog o Bwllheli.
Cafodd groeso cynnes gan Cynan a Mrs Jones yn eu tŷ ym Mhorthaethwy, ddiwrnod ar ôl iddyn nhw ddod adre o’u mis mêl, cyn i Mrs Jones esgusodi ei hun i fynd i baratoi cinio.
“Treuliais ychydig amser yn braslunio ac yn tynnu lluniau gyda fy nghamera,” meddai David Griffiths yn y gyfrol.
“Y peth nesaf a wyddwn oedd bod Mrs Jones yn rhedeg i mewn i’r stafell yn hynod o ypsét. ‘Dwi wedi llosgi’r cinio!’ meddai. ‘Y pryd cyntaf i mi baratoi iddo … dwi wedi llosgi cinio Cynan!’ Teimlais ei bod hi’n amser i mi wneud fy esgusodion a gadael!”
Un o bortreadau mwy diweddar David Griffiths yw un o Nigel Farage, a gafodd ei beintio yn 2017, pan oedd ceffyl blaen Brexit yn arweinydd UKIP.
Roedd y portread yn un dadleuol, meddai, cyn mynd ymlaen i drafod yr ymateb a gafodd i’r portread gan ddyn oedd am ei brynu er mwyn ei losgi.
“Cof anhygoel”
Mae’r gyfrol wedi cael ei golygu gan y cyflwynydd teledu Arfon Haines Davies, a’i chyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch.
“Mae gan David gof anhygoel am anecdotau sy’n dangos ochr ddynol a bywyd bob dydd testunau ei bortreadau,” meddai Arfon Haines Davies.
“Mae’n cynnwys hanes ei blentyndod a’i brofiadau cynnar fel artist hefyd. Bomiau Hitler a yrrodd teulu’r David Griffiths ifanc o lannau Merswy i fyw ym Mhwllheli.
“Hynny a’i gwnaeth yn arlunydd wrth iddo dderbyn arweiniad gan Elis Gwyn, ei athro yn yr Ysgol Ramadeg yno.”