Mae Myrddin ap Dafydd, Archdderwydd Cymru, ymhlith Cymrodyr er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth 2022
Caiff Cymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth ei gyflwyno i unigolion sydd, neu sydd wedi bod, â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol yn eu maes.
Bydd y Cymrodyr er Anrhydedd newydd yn cael eu cyflwyno yn ystod seremonïau graddio blynyddol y Brifysgol, sydd i’w cynnal yn ystod yr ail wythnos ym mis Gorffennaf 2022.
Mae Cymrodyr er Anrhydedd 2022 yn cynnwys:
- Myrddin ap Dafydd, awdur, cyhoeddwr ac Archdderwydd Cymru.
- Ei Anrhydedd y Barnwr Nicholas Cooke CF, cyn Uwch Farnwr Cylchdaith yn y Llys Troseddol Canolog, “yr Old Bailey”.
- Gwerfyl Pierce Jones, cyn-Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
- Tom Jones, amaethwr a chadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm ar adeg ei sefydlu.
- Dr Zoe Laughlin, cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr Institute of Making.
- Ei Arglwyddiaeth Datuk Vazeer Alam bin Mydin Meera, Barnwr Llys Apêl, Malaysia.
- Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau BBC Cymru Wales.
- Yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens DBE, yr Aelod dros Gymru ar Fwrdd y BBC a Chomisiynydd Etholiadol Cymru.
- Harry Venning, cartwnydd, darlunydd ac awdur comedi arobryn.
- Jonathan Whelan, ymgynghorydd TG, awdur a Chymrawd Cymdeithas Gyfrifiaduron Prydain.
“Un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i’r Brifysgol”
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Ar ran y Brifysgol, mae’n bleser mawr gennyf groesawu 10 Cymrawd er Anrhydedd newydd i deulu Prifysgol Aberystwyth, â phob un ohonynt naill ai wedi astudio yma neu wedi cyfrannu’n sylweddol at lwyddiant y Brifysgol a Chymru.
“Mae amrywiaeth meysydd eu harbenigedd yn tanlinellu parhad dylanwad y Brifysgol, yng Nghymru a thu hwnt.
“Mae dychweliad tebygol Graddio yn 2022 yn destun llawenydd mawr.
“Dyma un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i’r Brifysgol, digwyddiad y gwelwyd ei eisiau’n fawr yng nghyfnod y pandemig.
“Yn ystod y ddwy flynedd academaidd ddiwethaf, mae ein myfyrwyr wedi gweithio’n galed iawn i gwblhau eu hastudiaethau mewn amgylchiadau anghyffredin ac edrychaf ymlaen yn fawr at ymuno â nhw, eu teuluoedd a’u ffrindiau i ddathlu’r hyn y maent wedi ei gyflawni.
“Mi fydd hefyd yn gyfle pwysig iawn i bawb gydnabod ymrwymiad ac ymdrech ddiflino ein staff yn ystod y cyfnod heriol hwn.”