Mae pleidiau gwleidyddol yr Almaen yn gwneud eu paratoadau munud olaf cyn yr etholiad cenedlaethol ddydd Sul (26 Medi).
Bydd y Canghellor Angela Merkel yn camu i lawr o’r swydd ar ôl 16 blynedd wrth y llyw.
Ar hyn o bryd, mae ei phlaid y CDU mewn cynghrair wleidyddol â’r CSU, ac mae’r undeb honno wedi gwneud cynnydd bychan yn y polau piniwn yn yr wythnosau diwethaf.
Er gwaetha hynny, maen nhw’n parhau i fod tu ôl i’r Democratiaid Cymdeithasol, sy’n cael eu harwain gan Olaf Scholz.
Mae Plaid Werdd yr Almaen, sy’n cynnig ymgeisydd i fod yn Ganghellor am y tro cyntaf, yn drydydd yn y polau ar hyn o bryd.
Mae newid hinsawdd a’r economi yn dilyn y pandemig yn cael eu nodi fel rhai o’r pynciau mwyaf pwysig yn ystod yr ymgyrch etholiadol.
“Dydy hwn ddim yn etholiad diflas”
Dywed arbenigwyr bod y ras yn agos, yn bennaf oherwydd bod yr ymgeiswyr yn weddol anhysbys i’r etholwyr.
Mae Hendrik Traeger, gwyddonydd gwleidyddol yn yr Almaen, yn dweud bod yr etholiadau blaenorol yn eithaf digyffro gan fod Angela Merkel yn tueddu i ennill yn hawdd pob tro.
Ond mae’n debyg fod plaid Merkel yn ei chael hi’n anodd argyhoeddi eu cefnogwyr arferol y tro hwn, gyda llawer yn methu cynhesu at yr arweinydd newydd, Armin Laschet.
“Yn sicr dydy hwn ddim yn etholiad diflas,” meddai Hendrik Traeger.
Bydd y prif bleidiau yn cynnal eu ralïau olaf yn rai o ddinasoedd mwyaf yr Almaen dros y deuddydd nesaf er mwyn gwneud un ymgais olaf i ennill pleidleisiau.