“Mae’n edrych fel petai’r system tracio ac olrhain yn gwegian,” gydag awgrymiadau bod rhai ysgolion yn gwneud y gwaith, meddai Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) wrth golwg360.
Yn ôl Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol a Swyddog Polisi UCAC, mae yna gwestiynau i’w gofyn am gapasiti’r system.
Gyda rhai ysgolion wedi gorfod cau’n barod yn sgil covid, rydyn ni mewn sefyllfa lle gall mwy o ysgolion gau, neu gau’n rhannol, oherwydd prinder staff, yn ôl Rebecca Williams.
Mae’r cynnydd mewn achosion Covid-19 ymhlith pobol ifanc yn destun pryder i athrawon hefyd, ac mae UCAC yn dweud bod angen cyfarwyddyd cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru ynghylch ailgyflwyno mesurau diogelwch mewn ysgolion.
“Pryderon mawr”
Mae yna “bryderon mawr” ynghylch diffyg staff dros Gymru, meddai Rebecca Williams wrth golwg360, a hynny am ddau reswm.
“Un yw bod ysgolion mewn rhai ardaloedd wedi cael neges nad yw’r Gronfa Covid ar gael iddyn nhw rhagor i dalu am staff cyflenwi, felly mae hwnna’n destun pryder, ac mae hwnna dan drafodaeth rhyngom ni a’r Llywodraeth ar hyn o bryd.
“A’r ail beth yw bod prinder athrawon cyflenwi i gamu mewn, ac mae ysgolion wir yn ei chael hi’n anodd ffeindio staff i lenwi’r bylchau ar hyn o bryd.
“Mae’n edrych fel petai’r system tracio ac olrhain yn gwegian, jyst ddim yn gallu ymdopi – ddim yn cysylltu yn ddigon cyflym gyda chysylltiadau agos.
“Mae yna awgrym mewn sawl lle bod ysgolion yn cymryd drosodd y gwaith yna oddi wrthyn nhw, a does gan ysgolion ddim y capasiti i wneud hynny. Mae ysgolion yn gwegian hefyd.
“Oni bai eu bod nhw’n cael arian a staff ychwanegol, gallen nhw ddim ysgwyddo baich ychwanegol.
“Ond mae yna gwestiynau i’w gofyn am gapasiti’r system brofi ac olrhain,” meddai Rebecca Williams, gan nodi bod hynny dros Gymru i gyd.
Ailgyflwyno mesurau
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gofyn i ysgolion gryfhau mesurau covid, gan gynnwys gwisgo gorchuddion wyneb a chadw pellter, yn sgil niferoedd uchel o achosion ymhlith staff a disgyblion.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Sir Ddinbych, wrth y BBC heddiw bod 50% o ddisgyblion wedi profi’n bositif mewn rhai dosbarthiadau.
“Mae hwnna’n destun pryder i ni hefyd, a dyna sy’n cael ei adrodd i ni gan aelodau dros Gymru gyfan wir. Mae’n amlwg bod y cyfraddau’n uwch mewn rhai ardaloedd,” meddai Rebecca Roberts.
“Rydyn ni’n codi nifer o bethau gyda’r Llywodraeth, un yw efallai bod angen ailgyflwyno rhai o’r mesurau oedd gyda ni mewn ysgolion cyn yr haf.
“Mae pŵer gydag awdurdodau lleol i wneud hynny’n unigol nawr, ond efallai bod angen cyfarwyddyd ar lefel genedlaethol.
“Un o’r pethau amlwg i’w gwneud yw ailgyflwyno mesurau fel swigod, a phethau i gadw pellter cymdeithasol fel llwybrau unffordd o gwmpas yr ysgol, gorchuddion wyneb, yr holl bethau cyfarwydd iawn.”
Hunan-ynysu
Mater arall sydd wedi cael ei godi gan UCAC yn yr wythnosau neaf yw’r cyfarwyddyd ynglyn â hunan-ynysu, “neu’r diffyg cyfarwyddyd”.
“Un o’r pethau a ellir ei wneud, a cham bach fyddai, yw gwneud yn siŵr bod pobol yn gorfod hunan-ynysu rhwng cael y prawf PCR a chael y canlyniad,” meddai Rebecca Williams.
“Yn aml, mae’r bobol yna’n bobol sydd â covid yn y teulu neu’n gyswllt agos – dyna pam eu bod nhw wedi cael y prawf yn y lle cyntaf.
“Dyw e ddim yn gwneud synnwyr i ni, nag i’n haelodau ni, bod pobol yn cael parhau i fynychu’r ysgol rhwng cael y prawf a chael y canlyniad.
“Rydyn ni’n cytuno â’r Llywodraeth, dydyn ni ddim eisie cael pobol allan o’r ysgol heb angen. Ond dw i’n credu rhwng bod rhywun yn mynd yn sâl gyda covid yn y teulu a’u bod nhw’n cael prawf, a nes bod nhw’n cael canlyniad, dyle nhw fod yn aros adre, achos mae e jyst yn cyflymu’r lledaeniad mewn ysgolion.”
Elfen arall sy’n cael ei chodi gan UCAC yw’r angen am dynhau’r fframwaith ac ailgyflwyno mesurau diogelwch mewn ysgolion arbennig.
“Mae’r disgyblion yn fan honno’n fwy bregus na’r rhan fwyaf achos mae ganddyn nhw gyflyrau eraill yn barod,” eglura Rebecca Williams.
“Rydyn ni wedi codi gyda Llywodraeth Cymru’r angen ar frys nawr i dynhau’r fframwaith a’r canllawiau ar gyfer yr ysgolion hynny, ac ailgyflwyno rhai o’r mesurau.”
“Gobeithio am y gorau”
Mae NAHT – undeb prifathrawon Cymru – yn dweud bod agwedd Llywodraeth Cymru i agor ysgolion fel “bod popeth fel normal” yn golygu eu bod nhw’n “gobeithio am y gorau”.
“Cyn dechrau’r tymor hwn fe wnaethon ni leisio’n pryderon wrth Lywodraeth Cymru ynghylch y fframwaith dryslyd i ysgolion, oedd yn gwrthddweud ei hun ynghylch mesurau lliniaru effaith covid,” meddai Laura Doel, cyfarwyddwr undeb arweinwyr ysgolion NAHT Cymru.
“Fe wnaethon ni rybuddio bod cymryd agwedd ‘bod popeth fel normal’ yn gobeithio am y gorau, ac mae hyn wedi’i brofi drwy’r cynnydd mewn nifer achosion mewn ysgolion.
“Fe wnaeth Llywodraeth Cymru obeithio am y gorau ond heb gynllun gweithredol ar gyfer ailgyflwyno mesurau diogelwch yn sydyn pan fo angen.
“Mae arweinwyr ysgolion yn teimlo bod yr agwedd hon wedi cyfrannu at absenoldebau staff, ac mae’r angen am staff cyflenwi yn broblem wedi’i chreu gan y llywodraeth.”
Wrth gyfeirio at y ffaith bod rhai ysgolion wedi clywed nad yw’r Gronfa Covid ar gael iddyn nhw i dalu am staff cyflenwi ddim mwy, dywedodd Laura Doel bod rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i ariannu hynny er mwyn parhau ag addysg plant.
“Rydyn ni’n annog y llywodraeth i oedi ar unrhyw gynlluniau i gwtogi cyllid, ac ailfeddwl unrhyw gynllun a fydd yn cael effaith ddinistriol ar gyflwyno addysg.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Yn sgil llwyddiant ein rhaglen frechu, rydym wedi cymryd camau i alluogi ysgolion i weithredu mewn ffordd mor normal â phosibl, wrth barhau i reoli risgiau Covid,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae’n hanfodol ar gyfer lles plant eu bod yn gallu parhau i ddysgu, ac mae ein Fframwaith Rheoli Heintiau Lleol yn nodi’r mesurau i gyflawni hyn. Dylai ysgolion weithio’n agos gyda’u hawdurdod lleol a swyddogion iechyd cyhoeddus i ystyried os ddylid cyflwyno unrhyw fesurau ychwanegol i reoli risgiau lleol.
“Dylai unrhyw un sy’n teimlo’n sâl gyda symptomau Covid aros adre a chymryd prawf PCR.”