Mae cymdeithas feddygol BMA Cymru yn rhybuddio bod bywydau cleifion yn y fantol oherwydd dirywiad sydyn mewn gwasanaethau.
Mae’r sefydliad wedi ysgrifennu at Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, yn galw am newidiadau radical i’r system Iechyd a Gofal.
Cafodd y llythyr ei yrru bythefnos yn ôl – a’i ryddhau i’r Wasg heddiw.
Ynddo, mae’r BMA yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ar frys, gan ddweud bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gorfod gwrthod mynd at achosion brys.
Yn ôl Dr Phil White, Cadeirydd pwyllgor meddygon teulu BMA Cymru, “os na fydd gweithredu i ddatrys y sefyllfa ar unwaith, bydd cleifion yn marw, does dim amheuaeth”.
Ddoe roedd golwg360 yn adrodd fod rhestrau aros am driniaeth yn hirach nag erioed.
“Gwaeth nag erioed”
“O fewn y chwe wythnos ddiwethaf, mae’r sefyllfa wedi gwaethygu’r i’r pwynt lle mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gorfod gwrthod mynd at achosion brys gan y cyhoedd a chlinigwyr,” meddai Dr Phil White.
“Mae’n syfrdanol ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt hwn.
“Ar ôl codi pryderon bod y sefyllfa’n gwaethygu dro ar ôl tro dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydyn ni’n drist wrth weld bod ein hofnau wedi dod yn wir.”
Dywedodd Dr Phil White bod nifer cynyddol o feddygon teulu o amgylch Cymru’n dweud bod cleifion sy’n cyrraedd meddygfeydd gydag argyfyngau sy’n peryglu eu bywydau, yn gorfod cyrraedd ysbytai gyda thrafnidiaeth frys amgen, megis tacsis, neu liffts gan ffrindiau a theulu.
Mae meddygon teulu eu hunain yn gyrru achosion brys i ysbytai, neu’n cynnig triniaeth mewn llefydd sydd ddim â’r adnoddau i ddarparu triniaeth frys yn sgil anallu’r gwasanaeth ambiwlans i ymdopi.
“Mae’r sefyllfa yn waeth nag y bu erioed, ond dydi rheoli llif cleifion yng Nghymru heb fod yn addas ers blynyddoedd, a dydi ein rhybuddion heb gael eu clywed,” meddai Dr Phil White.
Mae’r llythyr, sydd wedi’i arwyddo gan Gadeiryddion Pwyllgor Cymru BMA Cymru a Chadeiryddion Pwyllgor Meddygaeth Leol y BMA, yn nodi bod y problemau wedi’u gwreiddio’n ddwfn ac yn cynnwys “yr anallu i reoli llif cleifion drwy’r holl system Gofal ac Iechyd”.
“Mae’r seyllfa yn gymhleth ac yn amlochrog, gyda phroblemau a datrysiadau’n gysylltiedig â’r gweithlu, rheoli galw, trosglwyddo pobol oddi ar ambiwlansys, llif, a rhyddhau pobol yn ôl i’r gymuned”, meddai’r llythyr.
“Pwysau annioddefol”
“Rydyn ni’n gwybod bod yr oedi mewn rhyddhau pobol o’r ysbyty yn gyfrannwr mawr tuag at y pwysau sydd ar adrannau brys ysbytai ar y funud,” meddai Dr Phil Banfield, Cadeirydd Pwyllgor Ymgynghori BMA Cymru.
“Achos amlwg y fath oedi yw’r ffaith bod capasiti gwlâu o fewn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi lleihau’n ddramatig dros y degawd diwethaf – yn erbyn cyngor gweithwyr ar y rheng flaen.
“Mae cael nifer sylweddol is o wlâu ysbyty yn cyfrannu at gleifion yn cael eu dal mewn adrannau brys lle y gallen nhw fod yn aros am fynediad i wardiau ysbyty eraill.
“Yna mae gennym ni gleifion sy’n eistedd mewn gwlâu ysbytai yn disgwyl i gael eu rhyddhau ond heb gynllun gofal yn eu disgwyl.
“I’r cleifion hynny, gall aros mewn ysbyty yn hirach gynyddu’r risg o haint ac achosi straen sy’n gallu effeithio iechyd y claf ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau a chynyddu’r siawns o gael eu haildderbyn i’r ysbyty.
“Mae’n rhoi pwysau annioddefol ar staff, ac yn achosi cryn ofid a dryswch i gleifion.”
Ychwanegodd Dr Phil Banfield bod yr “argyfwng hwn wedi amlygu’r diffyg sylfaenol mewn meddwl ar y cyd dros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymreig a gofal cymdeithasol, ac mae yna angen brys am ymateb ar y cyd.
“Mae’r system angen cael ei newid yn radical er mwyn creu gwasanaeth llyfn rhwng y Gwasanaeth Iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol gan weithio mewn partneriaeth er mwyn cwrdd ag anghenion cleifion yn effeithlon, yn ogystal â buddsoddiad sylweddol yn y system.
“Mae doctoriaid yn edrych tuag at y Gweinidog Iechyd am arweinyddiaeth a datrysiad. Mae cleifion wedi dioddef ac mae staff ar fin torri. Ni all y Gweinidog Iechyd aros ddim hirach – dewch ag iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd cyn y bydd rhai’n colli eu bywydau.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Mae yna bwysau sylweddol yn parhau i fod ar holl wasanaethau iechyd a gofal Cymru wrth i’r gwasanaeth barhau i ymdopi gydag effaith y pandemig,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Rydyn ni’n darparu cyllid sylweddol i helpu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol adfer wedi’r pandemig, gan gynnwys £240 miliwn fel rhan o’n cynllun adfer Covid.
“Rydyn ni hefyd wedi dyrannu £48 miliwn ychwanegol i helpu’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru gwrdd â heriau parhaus sydd wedi cael eu hachosi gan y pandemig.
“Mae gwaith ar y gweill i ailddiffinio’r ffordd mae gofal brys yn cael ei ddarparu gan gefnogi meddygfeydd teulu, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac adrannau brys drwy gynnig gofal brys yn agosach at adre.
“Mae hyn yn cynnwys sefydlu ac ehangu gwasanaethau gofal brys ar yr un diwrnod, a chreu canolfannau gofal sylfaenol dros Gymru er mwyn ymdopi â’r galw yn y gymuned yn well.
“Mae’r Gweinidog yn parhau i weithio gyda’r BMA a’r holl grwpiau perthnasol eraill er mwyn sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gorchfygu’r heriau sy’n ei wynebu.”