Mae’r Aelod o’r Senedd Ceidwadol, Natasha Asghar, yn galw ar Lywodraeth Cymru i dalu am hyfforddiant gyrru lorïau nwyddau trwm i bobol ifanc.
Daw hyn ar ôl prinder diweddar mewn gyrwyr yn y diwydiant, sydd wedi achosi toriadau enfawr ar draws y gadwyn gyflenwi – yn cynnwys prinder mewn petrol yr wythnos hon.
Dywedodd Gweinidog yr Wrthblaid ar Dechnoleg a Thrafnidiaeth, Natasha Asghar, bod angen talu am gyrsiau gyrru lorïau pobol rhwng 18 a 25 sy’n fodlon dechrau hyfforddiant o fewn y chwe mis nesaf.
Gall y costau hynny godi i hyd at £2,000 yr un i bob unigolyn.
Mae Llywodraeth Prydain eisoes wedi gwneud newidiadau sydd yn golygu bydd y rhai sy’n dysgu gyrru lorïau yn gallu derbyn prawf mewn lori gymalog, neu ‘articulated’, heb orfod gwneud prawf blaenorol mewn lori anhyblyg.
Galwad
“Nid yw hyn yn mynd i ddatrys y broblem dros nos, ond i lawer o bobol ifanc sy’n edrych ar y buddion cynyddol o ddod yn yrrwr lori ond sydd ddim efo’r arian i ddechrau’r hyfforddiant, gallai hyn roi hwb i’w dyfodol yn y diwydiant,” meddai Natasha Asghar, sy’n Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru.
“Ar ôl cael trafodaethau manwl gydag aelodau’r Gymdeithas Cludiant Ffyrdd, dylai Llywodraeth Cymru hefyd edrych ar ba gefnogaeth bellach y gallan nhw ei roi i wella’r amodau ar gyfer gyrwyr lorïau ar ffyrdd Cymru, gan sicrhau bod gwasanaethau sylfaenol fel toiledau ar gael trwy gydol y nos ac nid yn ystod y dydd yn unig.”