Mae codiad cyflog o £15,000 i Brif Weithredwr Cyngor Ceredigion wedi ei gymeradwyo gan y cyngor llawn.
Bydd Eifion Evans y Prif Weithredwr nawr yn derbyn cyflog o £130,000.
Mae’r cyngor wedi ailstrwythuro’r criw sy’n brif swyddogion a chreu graddfeydd cyflog newydd, a hynny i adlewyrchu’r ffaith fod mwy o gyfrifoldeb ar ysgwyddau llai o brif swyddogion.
Mae’r graddfeydd cyflog yn amrywio o £121,618 i £130,108 ar gyfer 2020/21, gyda’r raddfa bresennol yn amrywio o £106,077 i £117,866.
Mae cyflog presennol y cyfarwyddwr corfforaethol yn amrywio o £97,294 i £104,086.
Mae’r cynnig i sefydlu cymhareb o 80% wedi’i gymeradwyo gan Banel Annibynnol Cymru ar Dâl Ariannol.
“Sensitif a dadleuol”
Roedd arweinydd yr wrthblaid, y Cynghorydd Ceredig Davies yn gwrthwynebu’r cynnydd, gan ddweud ei fod yn bwnc “sensitif a dadleuol”.
“Dydw i ddim yn siŵr sut y bydd ein staff eraill yn teimlo am hyn, dydw i ddim yn siŵr faint ohonyn nhw sydd wedi cael cynnydd o 14 y cant yn yr ailstrwythuro,” meddai.
Ychwanegodd na fyddai’n cefnogi’r cynnydd ond y byddai’n fwy tebygol o wneud hynny pe bai’n cael ei “wneud dros gyfnod o amser”.
“Amseru gwael”
Lleisiodd y Cynghorydd John Roberts bryderon hefyd, gan ddweud “yn foesol mae’n amseru gwael iawn”.
“Nid y Prif Weithredwr yn unig a weithiodd yn galed yn ystod y cyfnod hwn ond mae’r staff o’i gwmpas wedi wynebu newidiadau enfawr a heb y staff ni fyddai dim yn cael ei wneud,” meddai.
Roedd yr ailstrwythuro wedi arwain at dair swydd uchel yn llai yn y cyngor, meddai’r dirprwy arweinydd, y Cynghorydd Ray Quant, ond nid oedd manylion yr arbedion ariannol ar gael yn y cyfarfod.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams mai Ceredigion yn draddodiadol oedd â’r Prif Weithredwr ar y cyflog isaf yng Nghymru a’r bwlch lleiaf rhwng y cyflog uchaf a’r cyflog isaf, tra bod cynghorwyr eraill hefyd yn tynnu sylw at y cyflogau uwch a dalwyd mewn rolau eraill yn y sector cyhoeddus megis ym Mhrifysgol Aberystwyth.