Mae gweithiwr gofal o Wrecsam wedi cael ei hatal rhag gweithio gyda phlant am 12 mis ar ôl iddi beidio â datgelu negeseuon anweddus gan gydweithiwr.

Roedd Rebecca White wedi bod mewn perthynas â’r cydweithiwr, ac roedd hwnnw wedi rhannu ei awydd i gael rhyw gyda phlant ifanc mewn negeseuon a galwadau ffôn gyda hi.

Doedd hi heb adael i’w chyflogwr wybod am y negeseuon na’r galwadau ffôn, a dim ond oherwydd bod unigolyn arall wedi codi pryderon am bartner Ms White y daeth y wybodaeth i’r amlwg.

Yn dilyn hynny, cafodd y partner ei arestio, a bu’n rhaid i Ms White wynebu gwrandawiad gyda chorff Gofal Cymdeithasol Cymru ar ôl cael ei hatal o’r gwaith dros dro ym mis Rhagfyr 2020.

“Angen i chi ddangos newid sylweddol iawn”

Penderfynodd y gwrandawiad yn gynharach yr wythnos hon ei rhwystro rhag gweithio â phlant am gyfnod hirach ar ôl i’r panel ddod i’r casgliad nad oedd hi’n deall yn llawn goblygiadau ei gweithredoedd.

“Pan ateboch gwestiynau [heddiw], gwelsom eich bod yn tueddu i roi’r un atebion dro ar ôl tro fel petaech wedi’u hymarfer yn hytrach na dangos unrhyw arwydd eich bod wedi ystyried eich ymddygiad, ac eich bod yn edifar,” meddai’r panel.

“Er eich bod wedi ymgymryd â llawer o hyfforddiant cyffredinol, nid yw’r un o’r rhain yn mynd i’r afael â risgiau cam-drin rhywiol yn uniongyrchol.

“Byddai angen i chi ddangos newid sylweddol iawn i gael eich rhoi mewn sefyllfa o ymddiriedaeth gyda chyfrifoldeb dros ddiogelu unigolion sy’n agored i niwed yn y dyfodol ac, felly, daethom i’r casgliad nad oedd yn briodol rhoi cyfnod pellach o atal dros dro ac adolygu.”