Mae barnwr wedi rhoi blwyddyn o garchar i gyn-bencampwr Paralympaidd dall ar ôl iddo ludo ei hun i awyren er mwyn protestio am newid hinsawdd.
Dywedodd y Barnwr Gregory Perrins bod James Brown, sy’n un o griw Gwrthryfel Difodiant, wedi defnyddio’i anabledd “yn sinigaidd” a rhoi “ei fywyd ei hun mewn perygl” pan wnaeth o weithredu ym Maes Awyr Dinas Llundain yn Hydref 2019.
Roedd y cyn-athletwr 56 oed, sydd â dwy fedal aur Baralympaidd, wedi dringo i dop yr awyren a gludo ei law i’r to, yn ogystal â rhwystro’r drws rhag cau.
Fe gafodd ei dynnu’n rhydd ar ôl awr, ond roedd hynny’n golygu bod rhaid canslo’r daith i Amsterdam, gyda 337 o deithwyr yn dioddef.
Fe wnaeth Brown gynrychioli Prydain yn y Gemau Paralympaidd bum gwaith mewn sawl camp wahanol, yn cynnwys seiclo ac athletau.
Dedfrydu
Fe gafodd James Brown ddedfryd 12 mis o garchar gan y barnwr ddydd Gwener (24 Medi), ond bydd dim ond rhaid iddo gyflawni hanner y cyfnod dan glo.
“Mae’n bwysig bod y rhai sy’n cael eu temtio i darfu’n ddifrifol ar fywydau’r cyhoedd a cheisio ei gyfiawnhau yn enw protest, yn deall y byddan nhw’n wynebu canlyniadau difrifol,” meddai’r Barnwr, Gregory Perrins.
“Mae yna linell glir rhwng protest gyfreithlon a throseddu bwriadol, ac fe wnaethoch chi ei chroesi.”
Roedd y barnwr yn derbyn bod James Brown yn gweithredu’n gydwybodol a’i fod wedi’i ysgogi “gan awydd i sicrhau newid gan gredu ei fod er budd pawb”.
Ond fe ddywedodd wrth Brown, nad oedd ganddo “hawl i driniaeth fwy trugarog” ar ôl iddo weithredu fel y gwnaeth.
“Mae gan bawb yn y wlad hon yr hawl i brotestio ac mae yna lawer o ffyrdd y gellir gwneud hynny heb dorri’r gyfraith,” ychwanegodd Perrins.
Ymateb Gwrthryfel Difodiant
Dywedodd Alanna Byrne, ar ran mudiad Gwrthryfel Difodiant, fod y grŵp “mewn sioc ac wedi eu llorio” gan y ddedfryd.
“Fel y wlad sy’n cartrefu cynhadledd Cop26, mae gwneud allan fod protestwyr heddychlon yn droseddwyr yn nodi’n glir y diffyg ymrwymiad gan ein Llywodraeth i’r trafodaethau rhyngwladol sy’n cael eu cynnal ym mis Tachwedd,” meddai.
“Rydyn ni’n gobeithio bod dewrder James yn rhoi achos i bobol gwestiynu gweithredoedd Llywodraeth sy’n ffafrio carcharu’r negesydd dros glywed yr alwad am weithredu.”