Mae Ysgrifennydd Cymru wedi rhoi’r fwyell i gynllun Llywodraeth Prydain i osod baner anferth ar un o’i hadeiladau newydd yng Nghaerdydd.
Roedd y cynllun i osod baner yn mesur 32 metr o uchder a naw metr ar ei hyd wedi cynddeiriogi cenedlaetholwyr, oedd yn ei weld fel ymgais drwsgl i geisio atgyfnerthu Prydeindod yng Nghymru.
Bellach mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, wedi penderfynu nad oes modd gwario £180,000 o arian cyhoeddus ar osod y faner ar adeilad Tŷ William Morgan yn y brifddinas.
Fe gafodd y faner ganitâd cynllunio gan Gyngor Caerdydd, ond bu sawl Aelod o Senedd Cymru yn dilorni’r syniad.
Mae’r adeilad newydd yng nghanol Caerdydd yn weithle i 4,000 o swyddogion sifil sy’n gweithio i adran dreth Llywodraeth Prydain, y Swyddfa Gymreig a’r Adran ar gyfer Materion Rhyngwladol.
Mi fydd yna faner Jac yr Undeb a baner y Ddraig Goch yn cyhwfan yn Nhŷ William Morgan – ond rhai maint arferol fyddan nhw.